Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Bydd eich ffôn symudol yn dirgrynu ac yn gwneud sŵn uchel fel seiren ddydd Sul
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Bydd eich ffôn symudol yn dirgrynu ac yn gwneud sŵn uchel fel seiren ddydd Sul
Arall

Bydd eich ffôn symudol yn dirgrynu ac yn gwneud sŵn uchel fel seiren ddydd Sul

Diweddarwyd diwethaf: Medi 2, 2025 12:19 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Mobile phone
RHANNU

Mae Llywodraeth y DU yn profi’r system Rhybuddion Argyfwng ddydd Sul 7 Medi 2025 am 3yp.

Bydd eich ffôn symudol neu dabled yn crynu ac yn gwneud sŵn uchel fel seiren, hyd yn oed os yw’r sain wedi ei ddiffodd. Bydd y neges rybudd yn cadarnhau mai prawf yw hwn a bod dim angen i chi gymryd unrhyw gamau pellach.

Mae profion rheolaidd yn sicrhau bod y system yn gweithio’n iawn os oes angen ei defnyddio mewn argyfwng sy’n peryglu bywydau. Cewch wybod mwy yn gov.uk/alerts

Gallwch ddewis peidio â chael Rhybuddion Argyfwng, gan gynnwys y prawf cenedlaethol, ond dylech eu cadw ymlaen er eich diogelwch eich hun.

Cewch Rybuddion Argyfwng trwy eich ffôn symudol neu dabled os oes argyfwng sy’n peryglu bywydau yn agos. Dim ond y Llywodraeth a gwasanaethau brys sy’n gallu eu hanfon.

Mae rhai pethau syml y gallwn ni gyd eu gwneud i fod yn fwy parod ar gyfer argyfwng.

Ewch i gov.uk/prepare i wybod sut gallwch chi baratoi.

Os ydych chi’n gyrru…

PEIDIWCH â gafael mewn ffôn symudol tra’n gyrru neu’n reidio beic modur. Mae’n anghyfreithlon gwneud hyn.

Os derbyniwch rybudd tra’n gyrru, peidiwch â chodi eich ffôn a cheisio delio â’r neges. Daliwch i yrru fel arfer, gan gadw eich cerbyd dan reolaeth.

Os teimlwch yr angen i edrych ar eich ffôn, rhaid i chi ddod o hyd i le diogel a chyfreithlon i stopio’r cerbyd yn gyntaf.

• Bydd Llywodraeth y DU yn cynnal prawf cenedlaethol o'r system Rhybuddion Argyfwng ddydd Sul 7 Medi am 3pm.
Rhannu
Erthygl flaenorol Recycling Ydych chi’n ymweld â chanolfan ailgylchu Plas Madoc? Byddwch yn ymwybodol o’r newidiadau hyn…
Erthygl nesaf Driving Mae’r Cyngor yn edrych i weithio gyda phartneriaid i orfodi terfynau cyflymder 30mya

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Annog trigolion Wrecsam i ofalu rhag masnachwyr twyllodrus yn dilyn storm Austen
Annog trigolion Wrecsam i ofalu rhag masnachwyr twyllodrus yn dilyn storm Austen
Pobl a lle
Hydref 27, 2026
Yr Actor Cymreig Rhys Ifans yn cefnogi cais Wrecsam i fod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2029
Yr Actor Cymreig Rhys Ifans yn cefnogi cais Wrecsam i fod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2029
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 27, 2026
Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Y cyngor Digwyddiadau Pobl a lle
Hydref 26, 2026
All Saints School fundraising activities
Disgyblion Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn rhedeg, yn pobi ac yn gwneud gwahaniaeth at achos da
Pobl a lle Busnes ac addysg
Hydref 26, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wo
Pobl a lleArallDatgarboneiddio Wrecsam

Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid

Hydref 23, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Sam Gardner
DigwyddiadauArallBusnes ac addysg

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 22, 2026
Mayor attending the Taste of Nigeria Festival
Pobl a lleArall

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref

Hydref 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English