Erthyl Gwadd – Mae Cyllid a Thollau EM (CThEM)
Mae Cyllid a Thollau EM (CThEM) yn atgoffa rhieni a gofalwyr bod ganddynt hyd at 31 Awst 2021 i gadarnhau a yw eu harddegwyr yn parhau mewn addysg neu hyfforddiant amser llawn y tu hwnt i 16 oed.
Yr wythnos diwethaf, cafodd pobl ifanc ledled y DU eu canlyniadau TGAU neu Dystysgrif Genedlaethol yr Alban, ac mae nifer nawr yn ystyried eu dyfodol. Os byddant yn penderfynu parhau â’u haddysg neu hyfforddiant amser llawn, bydd rhieni neu ofalwyr yn gymwys i barhau i gael taliadau Budd-dal Plant ar gyfer eu plant.
Mae CThEM wedi anfon llythyrau atgoffa at deuluoedd sy’n cael Budd-dal Plant ar gyfer eu plant sydd ym mlwyddyn olaf yr ysgol neu addysg gartref. Os yw eu plant yn parhau â’u haddysg y tu hwnt i 16 oed, mae’n rhaid i rieni neu ofalwyr roi gwybod i CThEM cyn diwedd mis Awst neu bydd y Budd-dal Plant yn dod i ben.
Mae’n gyflym ac yn hawdd diweddaru cofnodion Budd-dal Plant ar GOV.UK. Fel arall, gall rhieni neu ofalwyr ddychwelyd y ffurflen 297b a anfonwyd atynt gan CThEM.
Caiff Budd-dal Plant ei dalu i rieni neu ofalwyr cymwys sy’n gyfrifol am blant dan 16 oed, neu dan 20 oed os ydynt mewn addysg amser llawn nad yw’n addysg uwch neu mewn hyfforddiant cymeradwy.
Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i rieni neu ofalwyr sy’n cael Budd-dal Plant ac sydd ag incwm dros £50,000 (neu sydd â phartner sydd ag incwm o’r fath) dalu’r Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel drwy Ffurflen Dreth Hunanasesiad flynyddol.
Mae cyfrifon cerdyn Swyddfa’r Post yn cau. O 30 Tachwedd 2021 ymlaen, bydd CThEM yn stopio talu Budd-dal Plant, Lwfans Gwarcheidwad a chredydau treth i mewn i gyfrifon cerdyn Swyddfa’r Post. O ran y cwsmeriaid hynny sy’n defnyddio’r math hwn o gyfrif i gael eu taliadau Budd-dal Plant a chredydau treth, mae CThEM yn eu hatgoffa y bydd yn rhaid iddynt roi gwybod am fanylion eu cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd newydd.
Mae CThEM yn annog cwsmeriaid i weithredu nawr er mwyn sicrhau na fyddant yn colli unrhyw daliadau unwaith y bydd eu cyfrif Swyddfa’r Post yn cau. Gallant ffonio Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEM (0300 200 1900) neu gallant ddefnyddio eu Cyfrif Treth Personol. I gael gwybod sut i agor cyfrif banc, ewch i wefan Cyngor ar Bopeth.
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN