Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae’r dyddiad cau i rieni ddiweddaru Budd-dal Plant ar gyfer pobl ifanc 16 oed yn agosáu
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Mae’r dyddiad cau i rieni ddiweddaru Budd-dal Plant ar gyfer pobl ifanc 16 oed yn agosáu
Arall

Mae’r dyddiad cau i rieni ddiweddaru Budd-dal Plant ar gyfer pobl ifanc 16 oed yn agosáu

Diweddarwyd diwethaf: Awst 18, 2021 4:56 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Child benefit
RHANNU

Erthyl Gwadd – Mae Cyllid a Thollau EM (CThEM)

Mae Cyllid a Thollau EM (CThEM) yn atgoffa rhieni a gofalwyr bod ganddynt hyd at 31 Awst 2021 i gadarnhau a yw eu harddegwyr yn parhau mewn addysg neu hyfforddiant amser llawn y tu hwnt i 16 oed.

Yr wythnos diwethaf, cafodd pobl ifanc ledled y DU eu canlyniadau TGAU neu Dystysgrif Genedlaethol yr Alban, ac mae nifer nawr yn ystyried eu dyfodol. Os byddant yn penderfynu parhau â’u haddysg neu hyfforddiant amser llawn, bydd rhieni neu ofalwyr yn gymwys i barhau i gael taliadau Budd-dal Plant ar gyfer eu plant.

Trefnwch eich apwyntiad brechlyn Covid-19 ar-lein.

Mae CThEM wedi anfon llythyrau atgoffa at deuluoedd sy’n cael Budd-dal Plant ar gyfer eu plant sydd ym mlwyddyn olaf yr ysgol neu addysg gartref. Os yw eu plant yn parhau â’u haddysg y tu hwnt i 16 oed, mae’n rhaid i rieni neu ofalwyr roi gwybod i CThEM cyn diwedd mis Awst neu bydd y Budd-dal Plant yn dod i ben.

Mae’n gyflym ac yn hawdd diweddaru cofnodion Budd-dal Plant ar GOV.UK. Fel arall, gall rhieni neu ofalwyr ddychwelyd y ffurflen 297b a anfonwyd atynt gan CThEM.

Caiff Budd-dal Plant ei dalu i rieni neu ofalwyr cymwys sy’n gyfrifol am blant dan 16 oed, neu dan 20 oed os ydynt mewn addysg amser llawn nad yw’n addysg uwch neu mewn hyfforddiant cymeradwy.

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i rieni neu ofalwyr sy’n cael Budd-dal Plant ac sydd ag incwm dros £50,000 (neu sydd â phartner sydd ag incwm o’r fath) dalu’r Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel drwy Ffurflen Dreth Hunanasesiad flynyddol.

Mae cyfrifon cerdyn Swyddfa’r Post yn cau. O 30 Tachwedd 2021 ymlaen, bydd CThEM yn stopio talu Budd-dal Plant, Lwfans Gwarcheidwad a chredydau treth i mewn i gyfrifon cerdyn Swyddfa’r Post. O ran y cwsmeriaid hynny sy’n defnyddio’r math hwn o gyfrif i gael eu taliadau Budd-dal Plant a chredydau treth, mae CThEM yn eu hatgoffa y bydd yn rhaid iddynt roi gwybod am fanylion eu cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd newydd.

Mae CThEM yn annog cwsmeriaid i weithredu nawr er mwyn sicrhau na fyddant yn colli unrhyw daliadau unwaith y bydd eu cyfrif Swyddfa’r Post yn cau. Gallant ffonio Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEM (0300 200 1900) neu gallant ddefnyddio eu Cyfrif Treth Personol. I gael gwybod sut i agor cyfrif banc, ewch i wefan Cyngor ar Bopeth.

Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://bipbc.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/brechiad-covid-19-trefnu-apwyntiad-ar-lein/”]TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Popeth sydd angen i chi ei wybod am Ŵyl Wyddoniaeth Darganfod y penwythnos hwn Popeth sydd angen i chi ei wybod am Ŵyl Wyddoniaeth Darganfod y penwythnos hwn
Erthygl nesaf 6 awgrym defnyddiol a fydd yn ei gwneud yn haws i ddechrau yn yr ysgol uwchradd 6 awgrym defnyddiol a fydd yn ei gwneud yn haws i ddechrau yn yr ysgol uwchradd

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

the longest yarn
Dilynwch y pabïau i ‘The Longest Yarn’
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 29, 2026
Mae rhagolygon gyrfa newydd ychydig o gliciau i ffwrdd! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf...
Mae rhagolygon gyrfa newydd ychydig o gliciau i ffwrdd! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Busnes ac addysg
Medi 29, 2026
Baby Brave i ddathlu albwm cyntaf arloesol gyda pharti lansio yn Wrecsam
Baby Brave i ddathlu albwm cyntaf arloesol gyda pharti lansio yn Wrecsam
Pobl a lle
Medi 29, 2026
Dal dwylo
Rydyn ni’n chwilio am is-gadeirydd ar gyfer ein panel maethu – allech chi fod yr un?
Arall Pobl a lle
Medi 29, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Street lighting
Arall

Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd

Medi 21, 2026
Horse Riders
ArallPobl a lle

Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion

Medi 21, 2026
North Wales Police
Arall

Cefnogi Ymgyrch Spotlight sy’n canolbwyntio ar yrwyr ifanc

Medi 18, 2026
The Longest Yarn 2
ArallDigwyddiadau

Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!

Medi 15, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English