Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae’r frwydr yn erbyn cyflenwad anghyfreithlon o fêps a thybaco yn parhau
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Mae’r frwydr yn erbyn cyflenwad anghyfreithlon o fêps a thybaco yn parhau
ArallBusnes ac addysg

Mae’r frwydr yn erbyn cyflenwad anghyfreithlon o fêps a thybaco yn parhau

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 2, 2024 10:59 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Mae’r frwydr yn erbyn cyflenwad anghyfreithlon o fêps a thybaco yn parhau
RHANNU

Mae Swyddogion Safonau Masnach Wrecsam wedi bod yn gweithio gyda Op CeCe, Tîm Amharu Tybaco Cymru ac Op Blackspear, sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael â chyflenwad fêps anghyfreithlon. 

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Wrecsam wedi gweld cynnydd enfawr mewn masnachwyr yn gwerthu cynnyrch tybaco anghyfreithlon, ac yn ddiweddar, fêps anghyfreithlon.  Er gwaethaf ymdrechion Swyddogion Safonau Masnach Wrecsam wrth geisio ymgysylltu gyda manwerthwyr i sicrhau mai dim ond cynnyrch cyfreithlon sy’n cael ei werthu, mae miloedd o gynnyrch tybaco a fêps anghyfreithlon yn cael eu dal.  Fel rhan o’r ymdrech i roi terfyn ar gyflenwad nwyddau anghyfreithlon, mae rhai manwerthwyr wedi cael rhybudd 3 mis i gau gan y llysoedd am eu methiant i ddilyn cyngor a chanllawiau.

Fel rhan o weithrediad Blackspear, mae Safonau Masnach Wrecsam wedi anfon symiau mawr o gynnyrch tybaco anghyfreithlon a fêps anghyfreithlon i ailgylchu, gyda gwerth ar y stryd o dros £85,000.

TYBACO ANGYFREITHLON

Mae tybaco anghyfreithlon fel arfer ar gael am lai na hanner pris tybaco cyfreithlon.  Mae’r prisiau isel ac argaeledd y cynnyrch i ysmygwyr dan oed yn ei gwneud yn llawer haws i blant ddechrau dibynnu arno ac yn gwneud pethau’n anoddach i ysmygwyr sy’n ceisio rhoi gorau iddi.  Mae bron i 6,000 o bobl yn marw yng Nghymru bob blwyddyn yn sgil cyflyrau sy’n gysylltiedig ag ysmygu ac mae ysmygu’n achosi mwy o farwolaethau cynamserol yng Nghymru a’r DU nag unrhyw beth arall.

Mae fêpio wedi dod yn fwy a mwy poblogaidd yn ystod y deng mlynedd ddiwethaf ac fe’i cydnabyddir yn eang fel ffordd effeithiol o roi’r gorau i ysmygu tybaco.   Fodd bynnag, yn fwy diweddar, mae diddordeb mewn fêps tafladwy wedi ffrwydro ac mae pobl sydd erioed wedi ysmygu yn rhoi cynnig arnynt.   Mae’n anghyfreithlon gwerthu cynnyrch fêp i rai dan 18 oed, ond er hyn, mae fêps wedi dod yn boblogaidd ymysg pobl ifanc ac mae llawer o’r cynnyrch sydd ar gael yn apelio i blant gyda’u blas melys a phecynnu llachar.   Mae rhai cynnyrch anghyfreithlon wedi defnyddio enwau fferins poblogaidd i’w hyrwyddo hyd yn oed.

NID YW DEFNYDDIO FÊPS HEB EI RISGIAU

Er bod honiadau ei fod yn llawer llai niweidiol nag ysmygu tybaco, nid yw defnyddio fêps heb ei risgiau chwaith. Oherwydd hynny, mae’r gyfraith yn gosod cyfyngiadau penodol ar fêps tafladwy gydag uchafswm capasiti ac uchafswm cryfder nicotin.  Mae gofynion labelu llym hefyd. Roedd fêps anghyfreithlon fel y rhai a ddarganfuwyd yn groes i’r cyfyngiadau hyn gan achosi niwed sylweddol posibl i iechyd y bobl oedd yn eu defnyddio.

Dywedodd yr Aelod Arweiniol Gwarchod y Cyhoedd, y Cynghorydd Hugh Jones, “Mae’r cynnydd cyflym yn nifer y bobl a phlant sydd erioed wedi ysmygu ond sy’n defnyddio fêps yn peri pryder mawr ac mae’n dda gweld bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn ystyried deddfwriaeth newydd i fynd i’r afael â’r broblem.

“Mae gwerthu cynnyrch anghyfreithlon ein cymuned yn peri pryder penodol ac ni fyddwn yn meddwl ddwywaith cyn defnyddio’r grym cyfreithiol sydd gennym i amddiffyn iechyd a lles ein pobl ifanc.  “Rwyf yn croesawu’r gweithredoedd a gymerwyd gan Safonau Masnach, ac rwy’n gobeithio y bydd hyn yn gwneud i fanwerthwyr sy’n parhau i werthu nwyddau anghyfreithlon heb ystyried y niwed y gallant ei achosi i iechyd defnyddwyr feddwl ddwywaith.”

Os ydych am adrodd am werthwyr tybaco neu fêps anghyfreithlon yn eich ardal, gallwch wneud hynny’n ddienw drwy gysylltu ag ymgyrch No Ifs – No Butts ar 029 2049 0621 neu anfon neges e-bost at info@noifs-nobutts.co.uk neu ar eu gwefan – https://noifs-nobutts.co.uk/

Rhannu
Erthygl flaenorol Tourism Parcio am ddim ar ddydd Sadwrn ym meysydd parcio Cyngor Wrecsam o 30 Tachwedd tan ddiwedd Rhagfyr
Erthygl nesaf Marchnad Gwneuthurwyr Nadolig yn Tŷ Pawb dydd Sadwrn yma! Marchnad Gwneuthurwyr Nadolig yn Tŷ Pawb dydd Sadwrn yma!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Red Ensign Flag
Coffáu Diwrnod y Llynges Fasnachol trwy godi’r Lluman Coch
Arall Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 24, 2026
Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 21, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Guildhall
Arall

Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw

Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr

Awst 13, 2026
Water
ArallFideo

Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr

Awst 11, 2026
Mayor of Wrexham receiving a PSA screening test
ArallPobl a lle

Maer yn cefnogi digwyddiad sgrinio canser y prostad

Gorffennaf 28, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English