Mae ein Canolfan Groeso i Dwristiaid ar Sgwâr y Frenhines yn cefnogi ein darpariaeth i ymwelwyr sy’n prysur gynyddu yng nghanol y dref yn Wrecsam gan ail-agor eto ar ddydd Sadwrn o’r 7 Gorffennaf ymlaen!
Bydd yn agored rhwng 10am a 3pm bob dydd Sadwrn.
Mae nifer yr ymwelwyr yng Nghanol y Dref, sydd wedi cael eu cofnodi yn gyson dros y deunaw mis diwethaf, hefyd yn dangos bod nifer yr ymwelwyr yn parhau i gynyddu a hynny yn rhannol oherwydd y rhaglen ddigwyddiadau a gweithgareddau sy’n cael eu cynnal yn y dref bob penwythnos.
CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .
Yn ychwanegu at y cynnig manwerthu hwn, mae’r casgliad o atyniadau megis Tŷ Pawb, Eglwys San Silyn, Amgueddfa Wrecsam a Techniquest yn prysuro canol y dref â llawer o ymwelwyr a fydd yn manteisio o’r Ganolfan Groeso i Dwristiaid sy’n ail-agor ar ddydd Sadwrn.
Yn ogystal â gwybodaeth a chyngor i ymwelwyr, mae’r siop hefyd yn gwerthu amrywiaeth eang o anrhegion a chynnyrch lleol gan gynnwys Lager Wrecsam, Gin Aber Falls, Rosie’s Cider, Aballu Chocolate, Halen Môn, Wisgi Penderyn, Sawsiau Dylan’s, Jamiau Mrs Picklepot, carpedi Tweedmill a llawer iawn mwy.
Dywedodd Aelod Arweiniol Economi ac Adfywio, y Cynghorydd Terry Evans; “Mae’n wych gweld bod y tîm yn ail-agor ar ddydd Sadwrn i gefnogi’r cynnig ehangach i ymwelwyr o fewn canol y dref! Mae twristiaeth yn rhan allweddol o gefnogi economi Wrecsam ac mae’r gwasanaeth y mae’r staff o fewn y Ganolfan Groeso i Dwristiaid yn ei ddarparu yn gwella eu profiad a’u hargraffiadau cyntaf o’r dref.”
Mae’r Ganolfan Groeso i Dwristiaid yn agored chwe diwrnod yr wythnos (Llun i Gwener 10.00am – 4.00pm) a dydd Sadwrn o 7 Gorffennaf ymlaen (10.00am—3.00pm).
Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb
DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB