Mae gwasanaeth casglu gwastraff gardd 2022/23 yn dechrau ddydd Llun, Medi 5, felly os ydych chi’n defnyddio’r gwasanaeth ond heb ei adnewyddu eto, bydd angen i chi wneud yn fuan fel nad ydych yn colli unrhyw gasgliadau.
I adnewyddu – neu gofrestru os ydych yn newydd – ewch draw i wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd i wneud taliad ar-lein. Dyma’r ffordd gyflymaf a’r hawsaf, a gallwch wneud hynny ar adeg sy’n gyfleus i chi.
Mae’r gost ar gyfer 2022/23 yn aros yr un fath sef £25 fesul bin gwyrdd y flwyddyn, a bydd y gwasanaeth yn rhedeg o ddydd Llun, 5 Medi 2022 tan ddydd Gwener, 1 Medi 2023.
Os ydych wedi talu ar gyfer casgliad gwastraff gardd y llynedd (2021/22), bydd eich bin(iau) gwyrdd yn parhau i gael ei gasglu/eu casglu tan 2 Medi.
“Cael y gwerth gorau”
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “I gael y gwerth gorau, mae hi’n bwysig iawn cofrestru’n fuan ar gyfer gwasanaeth 2022/23. Gwyddwn fod rhai preswylwyr yn bwriadu adnewyddu, ond nad ydynt wedi cael cyfle i wneud eto, ac rydym yn eu hannog i wneud cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau nad ydynt yn colli unrhyw gasgliadau. Rydym eisiau i bobl gael y gwerth gorau am eu harian ac er mwyn sicrhau hynny, bydd angen iddynt wneud y taliad cyn i’r casgliadau newydd ddechrau ym mis Medi.”
Atgoffwch eraill
Hyd yn oed os ydych eisoes wedi adnewyddu eich bin gwyrdd eich hun, mae’n werth gwirio a ydy eich teulu, eich ffrindiau neu eich cymdogion wedi cofio adnewyddu ar gyfer y casgliad newydd hefyd.
O bosib fod rhai ohonynt wedi anghofio, neu heb sylwi fod angen iddynt adnewyddu eu bin gwyrdd cyn mis Medi, ac mi fyddant yn falch o gael eu hatgoffa.
Talwch ar-lein ble’n bosibl
Y ffordd hawsaf i dalu am y gwasanaeth yw ar-lein yn wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd. Os nad yw’n bosibl i chi dalu ar-lein, gallwch ffonio Gwasanaethau Stryd (01978 298989) i dalu â cherdyn, ond mae’n debyg y bydd rhaid i chi aros i wneud hynny. Rydym ni’n argymell yn gryf eich bod yn talu am y gwasanaeth ar-lein.
Sticeri newydd ar gyfer 2022/23
Bydd pawb sy’n cofrestru yn cael pecyn sticer gyda sticer newydd, a ddylid ei arddangos ar gaead eich bin o fis Medi.
Gofynnwn i drigolion i BEIDIO â rhoi eu sticer newydd ar gaead eu bin nes fod y gwasanaeth newydd yn cychwyn ym mis Medi. Dylech barhau i arddangos eich sticer 2021/22 nes fod y gwasanaeth yn dod i ben ar 2 Medi.
Dim taliadau arian parod na sieciau
Yn y blynyddoedd diwethaf, cawsom nifer o gwsmeriaid a geisiodd dalu am y gwasanaeth drwy anfon arian parod neu sieciau atom. Mae’n rhaid i ni ailadrodd; nid oes modd i ni dderbyn y taliadau hyn.
Nid wyf eisiau adnewyddu’r gwasanaeth – a wnewch chi gael gwared ar fy min gwastraff gardd?
Gellir cael gwared ar unrhyw finiau gwastraff gardd diangen os gofynnwch chi. Ar ôl gofyn am gael gwared â’r bin, gall gymryd nifer o wythnosau i’r bin gael ei gasglu. Yn y cyfamser, gwnewch yn siŵr bod eich bin yn parhau i fod yn wag, yn hygyrch, ond heb ei adael allan gan achosi rhwystr.
Efallai y byddai’n werth cadw gafael ar eich hen fin gwastraff gardd am y tro oherwydd, os ceir gwared ar eich bin gwastraff gardd a’ch bod chi’n newid eich meddwl yn y dyfodol, codir tâl am un newydd.
Beth allai ei wneud gyda fy ngwastraff gardd os nad ydw i eisiau talu am y gwasanaeth casglu?
Gallwch fynd â’ch gwastraff gardd i un o’n canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref (yn rhad ac am ddim). Neu, fe allech gompostio’r gwastraff gardd gartref.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd
Talu i wagio eich bin gwyrdd 2022/23.
TALU NAWR