Mae gwaith artist o Wrecsam wedi cymryd ei le â balchder yng nghanolbwynt un o adeiladau dinesig mwyaf amlwg y dref.
Bydd gwaith celf gan y peintiwr Mikey Jones yn cael ei arddangos ym mharlwr y Maer yn Neuadd y Dref.
Mae’r ddau beintiad yn darlunio rhai o dirnodau mwyaf adnabyddus Wrecsam – Traphont Ddŵr Pontcysyllte a thŵr Eglwys San Silyn.
Meddai’r Cynghorydd Andy Williams, Maer Wrecsam: “Hoffwn ddiolch i Mikey am y peintiadau penigamp hyn, sy’n portreadu dau o dirnodau mwyaf trawiadol a hawdd eu hadnabod Wrecsam. Maent yn beintiadau rhagorol sydd yn dal ymddangosiad eiconig y ddau adeilad, ac mae’r ddau â chysylltiad cryf â hanes cymdeithasol ac economaidd Wrecsam.
“Rwy’n falch iawn, nid yn unig i allu arddangos delweddau o rai o olygfeydd mwyaf adnabyddus Wrecsam yn y parlwr – ond delweddau sydd hefyd yn waith artist o Wrecsam.”
Dwedodd Mikey: “Mae o’n bleser i mi weld y celfyddweithau yma o ddau adeiledd eiconig yn ardal Wrecsam yn arddangos yn y parlwr , mae’n fraint enfawr.
“Mae’n bleser i weld ei gefnogaeth i arlunwyr lleol o gefndiroedd creadigol. Fel mae’n digwydd, mae gan y Maer dipyn o ddawn gyda brws paent – rwy’n bob tro wedi fy syfrdanu gyda’r ddawn greadigol sydd ganom ni yn yr ardal!”
DWI ISIO MYNEGI FY MARN
DOES DIM OTS GEN I