Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen ‘Making memories’ – stondin i’w chofio
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > ‘Making memories’ – stondin i’w chofio
Busnes ac addysgPobl a lle

‘Making memories’ – stondin i’w chofio

Diweddarwyd diwethaf: Medi 7, 2017 4:54 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
‘Making memories’ - stondin i’w chofio
RHANNU

Dewch i gwrdd ag Andrea Hughes, masnachwraig marchnad annibynnol sy’n rhedeg
‘Making Memories’ ym Marchnad y Cigyddion.

Cynnwys
  • “Shabby chic hen ffasiwn”
  • “Hyfryd a Theyrngar Iawn”
  • www.facebook.com/makingmemories7666
  • www.makingmemoriesbyandrea.co.uk

Agorodd Andrea ei stondin y llynedd ar ôl gweithio yn y byd addysg am dros 30 mlynedd a hyd yma mae wedi bod yn benderfyniad da gan fod busnes wedi bod yn gyson iawn.

“Shabby chic hen ffasiwn”

Mae Andrea yn cynnig amrywiaeth o anrhegion personol y mae’n eu disgrifio fel “shabby chic hen ffasiwn”. Mae ei stondin yn llawn anrhegion ar gyfer digwyddiadau fel priodasau, penblwyddi, penblwyddi priodas a babanod sydd newydd eu geni. Gellir rhoi enwau, dyddiadau neu benillion ar unrhyw rai o’r rhain er mwyn eu gwneud ychydig yn fwy arbennig.

Roedd prisiau Andrea i gyd yn rhesymol iawn ac yn sicr mae rhywbeth ar gyfer pawb faint bynnag y gallant ei wario.

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

Mae Andrea hefyd yn hapus i adael i gwsmeriaid logi addurniadau bwrdd ac ategolion ar gyfer digwyddiadau arbennig, yn arbennig priodasau sy’n gymorth mawr i ostwng cost y diwrnod mawr i gyd.

“Hyfryd a Theyrngar Iawn”

Dywedodd Andrea:

“Mae pobl Wrecsam wedi bod yn hyfryd a theyrngar iawn ers i mi fod yma. Mae hefyd yn wych fod cymaint o bobl yn awyddus i gefnogi masnachwyr lleol ac annibynnol. Mae gennym amrywiaeth o anrhegion sy’n addas i bob oed, o io-ios pren wedi eu personoleiddio i’r ffrâm llun delfrydol hwnnw all fod â phennill personol wedi ei ychwanegu ar gyfer 50fed Penblwydd Priodas rhywun.”

Gofynnom i Andrea am hysbysebu ac, fel y masnachwyr annibynnol eraill yr ydym wedi siarad â nhw, mae’n ffafrio Facebook a’i gwefan ei hun.
Mae’r ddau ar gael yma:

www.facebook.com/makingmemories7666

www.makingmemoriesbyandrea.co.uk

‘Making memories’ - stondin i’w chofio
‘Making memories’ - stondin i’w chofio
‘Making memories’ - stondin i’w chofio
‘Making memories’ - stondin i’w chofio
‘Making memories’ - stondin i’w chofio
‘Making memories’ - stondin i’w chofio
‘Making memories’ - stondin i’w chofio

Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd ac Adfywio:

“Mae’n wych i glywed am fasnachwyr lleol annibynnol sy’n creu busnesau llwyddiannus yng nghanol y dref ac sy’n amlwg yn cael eu gwerthfawrogi gan eu cwsmeriaid sy’n fwy na hapus i ymweld dro ar ôl tro. Pob lwc Andrea, rwy’n gobeithio y bydd y dyfodol yn parhau’n un cadarnhaol i chi.”

Os ydych am ymweld â “Making Memories” mae ym Marchnad y Cigyddion yng nghanol tref Wrecsam a bydd Andrea yn sicr o roi croeso cynnes i chi a’ch helpu i ddewis yr anrheg berffaith ar gyfer achlysur arbennig.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”]COFRESTRWCH FI[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Rydym yn chwilio am brentis i weithio gyda ni yn Swyddfa’r Wasg Rydym yn chwilio am brentis i weithio gyda ni yn Swyddfa’r Wasg
Erthygl nesaf Dual Carriageway Wyneb ffordd newydd ar gyfer Ffordd Ddyfrllyd / Cylchfan Y Werddon

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

sign for site
Cyngor Wrecsam i ddechrau dymchwel i wneud lle i ailddatblygu tai cymdeithasol
Y cyngor
Medi 22, 2026
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle
Medi 22, 2026
Gresford memorial wheel
Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach
Pobl a lle
Medi 22, 2026
Street lighting
Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd
Arall
Medi 21, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Horse Riders
ArallPobl a lle

Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion

Medi 21, 2026
Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws

Medi 21, 2026
Gallai'r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf...
Busnes ac addysg

Gallai’r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…

Medi 18, 2026
Tennis o'r radd flaenaf yn dychwelyd i Wrecsam ym mis Hydref
DigwyddiadauPobl a lle

Tennis o’r radd flaenaf yn dychwelyd i Wrecsam ym mis Hydref

Medi 18, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English