Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mam i efeilliaid yn annog mwy o bobl i ddod yn rhoddwyr gwaed sy’n achub bywydau ar gyfer yr Wythnos Genedlaethol Rhoddwyr Gwaed
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Coedwig Fechan newydd ei sefydlu, gyda ffens o’i hamgylch ym Mharc Borras
Pedair Coedwig Fechan Newydd — Yn dod â Mwy o Fyd Natur, Bywyd Gwyllt a Mannau Cymunedol i Sir Wrecsam
Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Wrexham AFC exhibition at Ty Pawb
Wrecsam yw’r Enw
Pobl a lle
Cynllunio ar gyfer cyllideb 2026/27 ein cyngor
Cynllunio ar gyfer cyllideb 2026/27 ein cyngor
Pobl a lle Y cyngor
Train carriage
Cyngor Wrecsam yn cefnogi cais newydd am wasanaethau rheilffordd uniongyrchol i Lundain Euston
Arall
save the date
Mae Gwasanaeth Carolau Cymunedol y Lluoedd Arfog yn dychwelyd am ei drydedd flwyddyn…Rhagfyr 4 🎄
Digwyddiadau Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Mam i efeilliaid yn annog mwy o bobl i ddod yn rhoddwyr gwaed sy’n achub bywydau ar gyfer yr Wythnos Genedlaethol Rhoddwyr Gwaed
Pobl a lleArall

Mam i efeilliaid yn annog mwy o bobl i ddod yn rhoddwyr gwaed sy’n achub bywydau ar gyfer yr Wythnos Genedlaethol Rhoddwyr Gwaed

Diweddarwyd diwethaf: 2023/06/12 at 10:01 AM
Rhannu
Darllen 5 funud
National Blood Donor Week
RHANNU

Yn ystod yr Wythnos Genedlaethol Rhoddwyr Gwaed (Mehefin 12 – 18) eleni, mae mam i efeilliaid, sy’n 29 mlwydd oed, yn eirioli am fwy o roddwyr gwaed i ddod ymlaen, ar ôl i un o’i meibion newydd-anedig orfod cael trallwysiadau gwaed i achub ei fywyd.

Cafodd Jodie Lewis a’i phartner Niall Trew o Gilfach Goch wybod yn ystod sgan arferol 26 wythnos, bod un o’u babanod wedi cael problem gyda llif y gwaed, a arweiniodd at Jodie yn treulio cyfnod y Nadolig yn yr ysbyty.

Ar 2 Ionawr, cafodd Jodie ei rhuthro i’r theatr i gael toriad Cesaraidd brys, ar ôl i un o galonnau’r babi roi’r gorau i guro.

Yn dilyn genedigaeth eu gefeilliaid, Frankie a Jax, parhaodd y cymhlethdodau. Yn bedwar diwrnod oed yn unig, cafodd yr efeilliaid eu gwahanu, wrth i Jax gael ei drosglwyddo i Ysbyty Athrofaol Cymru i gael triniaeth arbenigol.

Meddai Jodie, “Roeddwn i’n teimlo fy mod i’n colli rhan ohonof fi fy hun, ac roedd y bechgyn yn colli’r cyfle pwysig hwnnw i fondio â’i gilydd. Roedd gwybod eu bod ar wahân yn dorcalonnus.

“Roedd hi bron yn bythefnos cyn iddyn nhw weld ei gilydd eto. Roedd cael y babanod yn ôl gyda’i gilydd bryd hynny yn rhyddhad aruthrol.”

Roedd yr aduniad hwn yn fyr, fodd bynnag, gan fod Jax yn profi arwyddion o anemia ac nid oedd yn ymateb i feddyginiaeth. Cafodd Jax drallwysiad gwaed a achubodd ei fywyd pan oedd ond yn dair wythnos oed i drin ei gyflwr. Dangosodd profion gwaed pellach bod lefelau haemoglobin Jax yn isel, a’i fod yn cael trafferth creu ei gelloedd gwaed ei hun, a arweiniodd at ail drallwysiad gwaed bythefnos yn ddiweddarach.

Dywedodd Jodie: “Roedd yn anodd teimlo mor ddiymadferth tra bod angen cymaint o ymyrraeth feddygol ar ein babanod i wella.”

Mae’r ddau fachgen wedi gwella o’u triniaethau ers hynny, ac maen nhw bellach yn ffit ac yn iach ac yn mwynhau eu hamser gyda mam, dad a’r teulu ehangach.

Dywedodd Niall, partner Jodie: “Mae gweld y bechgyn yn tyfu bob dydd yn fendith, ac ni fyddaf byth yn ei gymryd yn ganiataol. Rwy’n edrych ymlaen at ein bywyd fel teulu ac at yr holl bethau y byddwn yn gallu eu gwneud gyda’n gilydd.

“Ni allaf fynegi fy niolch ddigon i’r rhoddwyr a helpodd Jax.  Rwy’n ddiolchgar iawn i chi am ganiatáu i fy mhlentyn ffynnu.

“Diolch i’w haelioni, rwy’n edrych ymlaen at rannu fy Sul y Tadau cyntaf gyda fy nau fachgen.”

Ychwanegodd Jodie: “Hoffwn ddweud wrth bobl, gwnewch y peth anhygoel hwn. Rhowch rodd o waed sy’n newid bywydau. Dydych chi ddim yn gwybod pa mor bwysig ydy hyn i deulu neu i unigolyn.

“Pwy bynnag ydy’r rhoddwyr mae Jax wedi derbyn gwaed ganddynt – rydyn ni’n eich gwerthfawrogi chi gymaint, ac fe fyddwn ni’n ddiolchgar am byth.”

Dywedodd Alan Prosser, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru: “Mae angen tua 350 o roddion i helpu’r 19 ysbyty yng Nghymru rydyn ni’n eu cyflenwi bob dydd, gan gynnwys Ysbyty’r Tywysog Charles, lle cafodd Jax ei drallwysiadau.

“Fel Gwasanaeth, rydym yn dibynnu ar haelioni pobl sy’n byw yng Nghymru i roi rhoddion hanfodol i gleifion, ac mae tua 5,000 o roddion gwaed yn cael eu defnyddio bob blwyddyn oherwydd genedigaeth.

“Trwy roi dim ond awr o’ch amser, mae gennych gyfle unigryw i gefnogi cleifion fel Jax, sy’n dibynnu ar drallwysiadau i oroesi.

“Mae’r Wythnos Genedlaethol Rhoddwyr Gwaed yn gyfle i wasanaethau gwaed ar draws y DU i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd rhoi gwaed ac achub bywydau, ac yn annog y rhai nad ydynt erioed wedi rhoi gwaed i roi cynnig arni.

“Mae rhannu straeon fel un Jodie a Niall yn tynnu sylw at wir werth un rhodd o waed yn unig, a’r gwahaniaeth mae’n ei wneud, nid yn unig i’r sawl sy’n derbyn y trallwysiad, ond i’w deulu hefyd. Diolch i’n rhoddwyr, gall Jodie a Niall edrych ymlaen at y cerrig milltir arbennig hynny mae pob rhiant yn eu cynllunio yn y blynyddoedd cynnar hynny, lle nad ydynt yn aml, yn cael cwsg, ond sy’n werthfawr iawn.”

Gwnewch apwyntiad i roi rhodd a allai achub bywydau yn welshblood.org.uk, neu ffoniwch 0800 252 266 heddiw.

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch

Rhannu
Erthygl flaenorol Holding hands Pam fod Artwneiaeth Arhosol yn bwysig i ofalwyr di-dâl?
Erthygl nesaf Mersey Dee Alliance Net World Sports i Noddi Brecwast Busnes Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy nesaf

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Coedwig Fechan newydd ei sefydlu, gyda ffens o’i hamgylch ym Mharc Borras
Pedair Coedwig Fechan Newydd — Yn dod â Mwy o Fyd Natur, Bywyd Gwyllt a Mannau Cymunedol i Sir Wrecsam
Arall Datgarboneiddio Wrecsam Rhagfyr 4, 2025
Wrexham AFC exhibition at Ty Pawb
Wrecsam yw’r Enw
Pobl a lle Rhagfyr 3, 2025
Cynllunio ar gyfer cyllideb 2026/27 ein cyngor
Cynllunio ar gyfer cyllideb 2026/27 ein cyngor
Pobl a lle Y cyngor Rhagfyr 3, 2025
Train carriage
Cyngor Wrecsam yn cefnogi cais newydd am wasanaethau rheilffordd uniongyrchol i Lundain Euston
Arall Rhagfyr 2, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Coedwig Fechan newydd ei sefydlu, gyda ffens o’i hamgylch ym Mharc Borras
ArallDatgarboneiddio Wrecsam

Pedair Coedwig Fechan Newydd — Yn dod â Mwy o Fyd Natur, Bywyd Gwyllt a Mannau Cymunedol i Sir Wrecsam

Rhagfyr 4, 2025
Wrexham AFC exhibition at Ty Pawb
Pobl a lle

Wrecsam yw’r Enw

Rhagfyr 3, 2025
Cynllunio ar gyfer cyllideb 2026/27 ein cyngor
Pobl a lleY cyngor

Cynllunio ar gyfer cyllideb 2026/27 ein cyngor

Rhagfyr 3, 2025
Train carriage
Arall

Cyngor Wrecsam yn cefnogi cais newydd am wasanaethau rheilffordd uniongyrchol i Lundain Euston

Rhagfyr 2, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English