Yr wythnos hon, efallai y bydd ymwelwyr â’r dref wedi sylwi fod ein byrddau map presennol wrthi’n cael eu hadnewyddu a’n bod yn gosod byrddau newydd.
Diolch i gyllid gan Bartneriaeth Dyma Wrecsam, mae’r artist lleol, David Goodman, wedi dylunio map canol tref newydd gyda mewnbwn gwestai, atyniadau a bwytai lleol. Mae’r map newydd hwn yn disodli’r hen fap canol trefn presennol, ac mae i’w weld mewn ambell i safle newydd hefyd. Mae’r rhain yn cynnwys mannau cyrraedd allweddol y dref yn Ngorsaf Gyffredinol Wrecsam, Maes Parcio Stryt Caer (Byd Dŵr), Gorsaf Fysiau Stryt y Brenin a Tŷ Pawb.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Meddai Cadeirydd Partneriaeth Dwristiaeth Dyma Wrecsam, Sam Regan: “Mae’r mapiau canol tref newydd hyn yn ased wych i ymwelwyr sydd eisiau archwilio mwy o’r hyn sydd gennym i’w gynnig yma yn y dref. Diolch i gymorth ariannol gan ein busnesau partner yn yr ardal, mae David wedi dylunio map sy’n ei gwneud yn hawdd crwydro’r dref a chanfod rhai o’r mannau gorau i ymweld â nhw ac aros a bwyta ynddyn nhw. Fel Partneriaeth, rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i’r Awdurdod Lleol am barhau i gydweithio â ni i ddatblygu twristiaeth yn y dref a ledled y Sir, drwy brosiectau fel hyn.”
“Cyrchfan dwristiaeth gystadleuol”
Lead Member for the Economy at Wrexham County Borough Council, Terry Evans Ychwanegodd Aelod Arweiniol Economi a Thai Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Terry Evans: “Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod canol ein tref yn parhau i ddatblygu fel cyrchfan dwristiaeth gystadleuol, ac ynghyd â’n buddsoddiad diweddar, mae wedi bod yn bleser gennym gefnogi uchelgeisiau ein masnach leol drwy helpu i godi’r mapiau newydd hyn o gwmpas y dref. Er y gallai nifer ddadlau mai dim ond eu dyfeisiau symudol y mae ymwelwyr modern yn eu defnyddio i grwydro tref newydd y dyddiau hyn, mae pobl yn holi tîm ein Canolfan Groeso bob dydd am gopïau print o fapiau – ac mae’r dyluniadau newydd hyn yn ychwanegiad gwych at ddeunydd marchnata Wrecsam.”
Mae’r mapiau hefyd ar gael mewn print o Ganolfan Groeso Wrecsam ac o amrywiol atyniadau a siopau eraill o amgylch y dref, gan gynnwys Eglwys Blwyf San Silyn, Amgueddfa Wrecsam a Techniquest Glyndŵr. Ac mae posib lawrlwytho fersiwn o’r map a nifer o syniadau am ddyddiau allan a phenwythnosau i ffwrdd yn y Sir drwy fynd i www.thisiswrexham.co.uk/inspireme
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION