Mae safon uchel gwaith ieuenctid ledled Wrecsam wedi ei gydnabod gan Gyngor y Gweithlu Addysg a Llywodraeth Cymru sydd wedi dyfarnu’r Marc Ansawdd Gwobr Efydd am y gwaith.
Mae’r wobr yn dangos ymdrech tîm gwych sy’n cynnwys y canlynol:
- Gwaith Ieuenctid Cymunedol
- Tîm Cymorth Chwarae ac Ieuenctid
- Prosiect Ysbyty Inspire
- Atal Digartrefedd
- Gwaith Ieuenctid mewn Addysg
- Cynllun Gwobr Dug Caeredin
- Gwybodaeth a chynllun cyffuriau ac alcohol in2change
a oedd i gyd yn ganolog i dderbyn y wobr.
Daw hyn wedi wythnos o graffu dwys a chyfarfodydd gyda staff, rheolwyr ac wrth gwrs ein pobl wych a fu’n ymwneud ag Inspire, Brymbo a Senedd yr Ifanc.
Mae’r Marc Ansawdd yn cefnogi sefydliadau gwaith ieuenctid i herio eu dulliau ymarfer. Mae’n annog darpariaeth gwaith ieuenctid o ansawdd ac yn cefnogi datblygiad cynnig gwaith ieuenctid sy’n fwy cyson ar draws Wrecsam a Chymru.
Dywedodd Aelod Arweiniol y Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrthdlodi, y Cynghorydd John Pritchard, “Dyma gamp anhygoel gan bawb fu’n rhan o hyn ac mae’n brawf o’r gwasanaethau rhagorol a gaiff eu cynnig i’n pobl ifanc.
“Mae hefyd yn dangos y gwaith partneriaeth rhagorol sy’n digwydd yma yn Wrecsam i sicrhau fod ein pobl ifanc yn gallu tyfu yn hyderus yn oedolion ifanc.
“Da iawn bawb fu’n rhan o hyn a phob lwc wrth i chi weithio tuag at y Wobr Arian, ac rwy’n gwybod eich bod eisoes yn gwneud hynny’n frwd.”
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN