Mae yna wledd Nadoligaidd o’ch blaen wrth i’r Farchnad Nadolig Fictoraidd ddychwelyd i ganol y ddinas ar 7 Rhagfyr.
Amrywiaeth eang o stondinau Nadoligaidd:
Mi fydd yna dros 80 o stondinau o Sgwâr y Frenhines i Eglwys San Silyn yn gwerthu anrhegion, cynnyrch harddwch a gofal croen, bwyd a diod, cacennau, celf, dillad ac ategolion, gemwaith a llawer mwy!
Carnifal / Ffair Fach Fictoraidd:
Ar gyfer y plant mi fydd yna geffylau bach, olwyn fawr a llawer o stondinau hwyl eraill fel stondin taro coconyts, ac fe allwch chi hefyd brofi’ch cryfder gyda’r peiriant morthwyl!
Ar ben hynny mi fydd yna berfformwyr stryd a diddanwyr eraill gan gynnwys canwyr organ Fictoraidd draddodiadol, sioe Pwnsh a Jwdi, a diddanwyr stryd fel Brenhines Fictoria, ysgubwyr simnai a phigwyr pocedi…. Jyglwyr, cerddwyr stiltiau ac mi fydd yna hefyd berfformiad gan Fand Pres Dinas Wrecsam cyn diwedd y dydd.
Meddai’r Cyng. Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi ac Adfywio, “Mae pawb yn edrych ymlaen yn eiddgar iawn at y Farchnad Fictoraidd, sy’n dod a miloedd o bobl leol ac ymwelwyr i Wrecsam.
“Eleni mae’r trefnwyr wedi sicrhau amrywiaeth eang o stondinau ac adloniant i bawb eu mwynhau a hoffaf ddiolch iddyn nhw am eu hymrwymiad i wneud y digwyddiad hwn yn un i’w gofio.”
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch