Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Marlin Industries – yn Wrecsam ers dros 30 mlynedd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Family Teulu
Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth
Pobl a lle Y cyngor
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor
Exterior of Wisteria Court
Cyngor Wrecsam yn Dathlu Cwblhau Rownd Arall o Waith Adnewyddu Tai Gwarchod
Arall
Road maintenance
Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall
Arall Y cyngor
Lucy Cowley
Lucy Cowley yw dysgwr y flwyddyn eleni
Digwyddiadau Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Marlin Industries – yn Wrecsam ers dros 30 mlynedd
Y cyngorBusnes ac addysg

Marlin Industries – yn Wrecsam ers dros 30 mlynedd

Diweddarwyd diwethaf: 2023/07/31 at 3:47 PM
Rhannu
Darllen 3 funud
Marlin Industries
RHANNU

Gyda’r brif swyddfa yn Wrecsam, mae Marlin Industries Ltd wedi gweithredu fel cwmni cyfyngedig preifat am 32 mlynedd. Gan dyfu o gwmni newydd yn 1991, mae gan y cwmni bellach 175 o bobl ar draws chwe safle yn y DU gyda refeniw blynyddol o thua £17 miliwn.

Un o brif swyddogaethau’r busnes yw darparu riliau a drymiau ar gyfer cebl neu raff. Defnyddir y riliau a drymiau i gludo cebl neu raff o’r ffatri i’r safle gosod.

Wedi ei wneud o goed, pren haenog neu wastraff cebl wedi ei ailgylchu, gellir defnyddio nifer o’r riliau a’r drymiau fwy nag unwaith.

Mae Marlin Industries yn fusnes Sero i Dirlenwi yn canolbwyntio ar gynaliadwyedd

Yn ddiweddar, bu i’r Aelod Arweiniol Economi ac Adfywio, y Cyng. Nigel Williams ymweld â’u safle a gweld sut mae eu gwaith yn helpu i amddiffyn yr amgylchedd.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Defnyddiant eu fflyd eu hunain o gerbydau a darparu gwasanaeth ledled y DU, gan gasglu riliau a drymiau o safleoedd ble mae cebl wedi ei osod. Yna mae’r rhain yn cael eu hadnewyddu, eu hatgyweirio neu osod cydrannau newydd er mwyn eu hailddefnyddio.

Mae ailddefnyddio deunydd pecynnu fel hyn yn gostwng costau, ond yn bwysig yn gostwng gwastraff ac yn golygu bod angen llawer llai o riliau a drymiau.

Mae hyn yn ganolog i ethos Marlin ac yn creu cynnig unigryw a chyflawn i ddiwydiannau ynni a thelegyfathrebu.

I gyd-fynd â’r atebion pecynnu newydd a adnewyddwyd, mae system ailgylchu fewnol yn golygu y gellir prosesu pren a phlastig i gynnyrch eraill; nid oes unrhyw ddeunydd yn mynd i safle tirlenwi, mae bob dim yn cael ei ailgylchu.

Mae ailddefnyddio deunydd pecynnu a ddefnyddir ar draws y diwydiant ceblau yn enghraifft dda o’r economi gylchol ar waith. Mae’r cwmni hwn yn awyddus i ddatblygu hyn trwy ymestyn ei alluoedd ymhellach ac mae nawr yn targedu dyddiad o 2030 i ddod yn sefydliad di-garbon.

Dywedodd y Cynghorydd Williams, “Mae eu gweithrediad yn hynod drawiadol ac mae eu sylw i’r amgylchedd o’r radd flaenaf.

“Hoffwn ddiolch i John a Mel am gymryd yr amser i fy nhywys o amgylch y safle a fy niweddaru o ran eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol.”

Dywedodd John Droog, Prif Weithredwr Marlin Industries, “Fel arweinwyr y farchnad yn y chwyldro gweithgynhyrchu carbon isel o fewn y diwydiant ceblau roedd yn bleser tywys Nigel o amgylch y safle.

“Bu i ni ddangos iddo ein bod ni, fel busnes economi gylchol, yn darparu atebion i’n cwsmeriaid sy’n gostwng costau ac yn gwella perfformiad amgylcheddol.”

Marlin Industries

Ewch i’w gwefan.

Efallai yr hoffech chi hefyd ddarllen Llwyddiant Brecwast Busnes Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy yn Net World Sports

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch

Rhannu
Erthygl flaenorol Football Cadwch y plant yn actif yr wythnos hon
Erthygl nesaf Tour of Britain cyclists Wrecsam i groesawu cychwyn a diwedd y Daith ar yr ail gymal

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Family Teulu
Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth
Pobl a lle Y cyngor Awst 8, 2025
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor Awst 8, 2025
Exterior of Wisteria Court
Cyngor Wrecsam yn Dathlu Cwblhau Rownd Arall o Waith Adnewyddu Tai Gwarchod
Arall Awst 8, 2025
Road maintenance
Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall
Arall Y cyngor Awst 7, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Family Teulu
Pobl a lleY cyngor

Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth

Awst 8, 2025
ruthin road
Pobl a lleY cyngor

Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun

Awst 8, 2025
Road maintenance
ArallY cyngor

Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall

Awst 7, 2025
Jayne Bryant
Busnes ac addysgPobl a lle

Cymunedau Cymru i dderbyn hwb adfywio gwerth £17m

Awst 5, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English