Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Masnachu annheg yn costio bron i £3,000 i un töwr
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Masnachu annheg yn costio bron i £3,000 i un töwr
ArallY cyngor

Masnachu annheg yn costio bron i £3,000 i un töwr

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 22, 2019 9:45 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Masnachu annheg yn costio bron i £3,000 i un töwr
RHANNU

Daeth achos llys ynadon i ben yn ddiweddar gyda thöwr lleol, Kenny Baker, a oedd yn masnachu fel Baker’s Roofing, yn pledio’n euog i 7 cyhuddiad dan y Rheoliadau Diogelu Cwsmeriaid rhag Masnachu Annheg. Cafodd ddirwyon a chostau yn ei erbyn am gyfanswm o bron i £3,000.

Lansiodd Safonau Masnach Wrecsam ymchwiliad i weithgareddau’r töwr yn dilyn cyfres o gwynion y llynedd ynghylch gwaith o safon wael neu waith heb ei orffen, oedi mawr a rhes o esgusodion am fethu â darparu’r gwasanaethau yn ôl y contract. Rhoddodd tri o gwsmeriaid Mr Baker dystiolaeth o oedi dro ar ôl tro wrth wneud gwaith.

DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.

Dywedodd Roger Mapleson, Arweinydd Safonau Masnach a Thrwyddedu, “Doedd safon y gwasanaeth roedd Baker’s Roofing yn ei ddarparu ddim yn dderbyniol nac yn wasanaeth y byddai rhywun yn ei ddisgwyl gan fusnes proffesiynol. Roedd oedi mawr cyn dechrau’r gwaith gyda llu o esgusodion ac roedd ymdrechion y cwsmeriaid i ddatrys y problemau’n cael eu rhwystro gan eu bod nhw wedi cael hen gyfeiriad busnes Mr Baker.”

Cyngor siopa da gan y Safonau Masnach yw i chi ddewis adeiladwr neu gontractwr yn ofalus os ydych yn ystyried cael rhywun i wneud gwaith ar eich cartref. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod pwy ydyn nhw a ble mae eu cyfeiriad. Gofynnwch sut mae angen talu a byddwch yn wyliadwrus iawn o rai sy’n gofyn am daliadau mawr cyn cychwyn. Os ydynt yn honni eu bod yn aelodau o gymdeithasau yn eu diwydiannau, gwiriwch hynny, a gwirio a yw o unrhyw fudd i’r cwsmer. Os gallwch chi, gwnewch rywfaint o ymchwil ar-lein trwy ddarllen adolygiadau neu brofiadau gwael gan gwsmeriaid eraill. Gorau oll os gallwch chi fynd am rywun mae eich ffrindiau a’ch teulu’n ei argymell.

Cafodd Mr Baker ddirwy o £120 am bob trosedd am gyfanswm o £840, gordal o £30 i’r dioddefwyr a chostau o £2,093 i’w talu.

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″] COFRESTRWCH FI RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Digital hero Ydych chi’n arwr digidol? Tarwch olwg ar y swydd hon…
Erthygl nesaf Ymdrech ysgubol gan Ddisgyblion, Staff a Rhieni Ysgol Clywedog Ymdrech ysgubol gan Ddisgyblion, Staff a Rhieni Ysgol Clywedog

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Sam Gardner
DigwyddiadauArallBusnes ac addysg

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 22, 2026
Mayor attending the Taste of Nigeria Festival
Pobl a lleArall

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref

Hydref 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English