Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ydych chi’n arwr digidol? Tarwch olwg ar y swydd hon…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
CYFLWYNO CORON A CHADAIR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL WRECSAM
CYFLWYNO CORON A CHADAIR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL WRECSAM
Digwyddiadau Pobl a lle
Adfywio treftadaeth barhaus yn cefnogi adeiladau allweddol yn Ardal Gadwraeth Wrecsam
Adfywio treftadaeth barhaus yn cefnogi adeiladau allweddol yn Ardal Gadwraeth Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Gwersyllt Community Resource Centre
Canolfan Adnoddau Cymunedol Gwersyllt – cau am bythefnos
Pobl a lle Y cyngor
Alwen Williams has been appointed as Chief Executive of the North Wales Corporate Joint Committee (CJC) – known as Ambition North Wales.
Uchelgais Gogledd Cymru yn penodi Prif Weithredwr
Arall Busnes ac addysg
Allech chi wneud unrhyw un o'r swyddi hyn?
Allech chi wneud unrhyw un o’r swyddi hyn?
Busnes ac addysg
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Ydych chi’n arwr digidol? Tarwch olwg ar y swydd hon…
Arall

Ydych chi’n arwr digidol? Tarwch olwg ar y swydd hon…

Diweddarwyd diwethaf: 2019/11/25 at 3:19 PM
Rhannu
Darllen 3 funud
Digital hero
RHANNU

Mae ‘Digidol’ yn air sydd wedi ei ddefnyddio’n aml yn y blynyddoedd diwethaf. Bu llawer o sôn…. a rhywfaint o weithredu.

Cynnwys
Rydym yn chwilio am arweinydd digidol…Y gwobrwyonSut i Ymgeisio

Ond fel y rhan fwyaf o gynghorau, mae tipyn o ffordd i fynd cyn y gallwn ni wir alw ein hunain yn ‘sefydliad digidol.’

Ac efallai mai dyna pryd allech chi gamu i mewn?

Rydym yn chwilio am arweinydd digidol…

Rydym yn chwilio am rywun i arwain ein hagenda digidol.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Rhywun sy’n deall i ba gyfeiriad mae technoleg, ymddygiad cwsmeriaid ac arferion busnes yn mynd… a rhywun a allai ein helpu i ddwyn pwysau am y pethau hyn er budd cwsmeriaid a gweithwyr.

Oes gennych chi ddiddordeb? Efallai y dylech chi ymgeisio.

DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.

Os ymunwch chi â ni yn y swydd hon, byddwch yn cynnig cyngor arbenigol ar wasanaethau digidol, datblygu strategaethau a pholisïau ar gyfer trawsnewid digidol, a chymell darpariaeth prosiectau digidol ar draws y cyngor.

Chi fydd yn sbarduno arloesi, herio dulliau o weithio nad ydynt yn ddigidol, a chwilio am gyfleoedd i weithio gyda sefydliadau eraill.

Wrth gwrs… mae angen rhywun gyda sgiliau gwych a’r profiad cywir arnom ni. Ond yn fwy na dim, mae angen rhywun â ‘gweledigaeth’ arnom ni.

digidol

Y gwobrwyon

Peidiwch â chredu’r hyn rydych yn ei ddarllen. Gall gweithio yn y sector cyhoeddus roi llawer o foddhad… ac yn sicr nid yw’n ddiflas.

Mae llai o arian yn golygu fod rhaid i gynghorau fod yn fwy doeth ac arloesol yn y ffordd y maent yn darparu gwasanaethau… ac mae gan drawsnewid digidol ran fawr i’w chwarae yn hyn.

Felly mae digon o foddhad swydd i’w gael yn y swydd hon … digon o gwmpas i fod yn greadigol, yn dechnolegol a strategol.

Hefyd cewch fynediad at gynllun pensiwn da, lwfans gwyliau hael, gweithio’n hyblyg (gwych ar gyfer cydbwyso bywyd gwaith ac yn y cartref) a buddiannau eraill i weithwyr.

Sut i Ymgeisio

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos, dydd Gwener, 13 Rhagfyr, felly os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â ‘Thîm Wrecsam’, ewch amdani.

Am fwy o wybodaeth, gan gynnwys manylion cyswllt ar gyfer sgwrs anffurfiol am y swydd ewch i’n gwefan.

DWI EISIAU GWELD Y SWYDD!

Rhannu
Erthygl flaenorol O Fenis i Wrecsam - Dyddiadau wedi'u cyhoeddi ar gyfer arddangosfa fawr newydd Tŷ Pawb O Fenis i Wrecsam – Dyddiadau wedi’u cyhoeddi ar gyfer arddangosfa fawr newydd Tŷ Pawb
Erthygl nesaf Masnachu annheg yn costio bron i £3,000 i un töwr Masnachu annheg yn costio bron i £3,000 i un töwr

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

CYFLWYNO CORON A CHADAIR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL WRECSAM
CYFLWYNO CORON A CHADAIR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL WRECSAM
Digwyddiadau Pobl a lle Mehefin 18, 2025
Adfywio treftadaeth barhaus yn cefnogi adeiladau allweddol yn Ardal Gadwraeth Wrecsam
Adfywio treftadaeth barhaus yn cefnogi adeiladau allweddol yn Ardal Gadwraeth Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor Mehefin 17, 2025
Gwersyllt Community Resource Centre
Canolfan Adnoddau Cymunedol Gwersyllt – cau am bythefnos
Pobl a lle Y cyngor Mehefin 16, 2025
Alwen Williams has been appointed as Chief Executive of the North Wales Corporate Joint Committee (CJC) – known as Ambition North Wales.
Uchelgais Gogledd Cymru yn penodi Prif Weithredwr
Arall Busnes ac addysg Mehefin 16, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Alwen Williams has been appointed as Chief Executive of the North Wales Corporate Joint Committee (CJC) – known as Ambition North Wales.
ArallBusnes ac addysg

Uchelgais Gogledd Cymru yn penodi Prif Weithredwr

Mehefin 16, 2025
'Cyfnod cyffrous i'r ddinas' wrth i atyniad ymwelwyr cenedlaethol newydd sbon Wrecsam gymryd siâp
ArallPobl a lle

‘Cyfnod cyffrous i’r ddinas’ wrth i atyniad ymwelwyr cenedlaethol newydd sbon Wrecsam gymryd siâp

Mehefin 12, 2025
Peidiwch ag anwybyddu'r system unffordd newydd
Pobl a lleArallDatgarboneiddio WrecsamY cyngor

Peidiwch ag anwybyddu’r system unffordd newydd

Ebrill 16, 2025
Olwyn gefn beic modur
Pobl a lleArall

Ydy’ch beic modur yn barod ar gyfer y tymor beicio?

Ebrill 16, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English