Rydym yn falch o gyhoeddi, oherwydd llwyddiant cyfnod masnachu rhydd y llynedd yn ein Marchnad Awyr Agored ar Ddydd Llun, y byddwn yn rhedeg y cynllun eto eleni.
Bydd y cyfnod masnachu rhydd yn rhedeg o ddydd Llun 28 Ebrill tan ddiwedd mis Rhagfyr.
Yn ystod cyfnod masnachu rhydd y llynedd, cafwyd llawer o ddiddordeb gan fasnachwyr lleol ac annibynnol gydag ymwelwyr â chanol y ddinas a’r farchnad yn cynyddu.
Mae’n bwysig cefnogi masnachwyr marchnad canol y ddinas
Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol dros yr Economi, “Rydym yn ail-lansio’r fenter hon i gefnogi ein masnachwyr marchnad awyr agored lleol, yn ogystal â chynyddu’r hyn sydd gennym i’w gynnig yng nghanol y ddinas.
“Roedd masnachwyr yn gwerthfawrogi’r cymorth gafodd ei gynnig ac mae ymwelwyr wedi gwerthfawrogi’r amrywiaeth o stondinau oedd yn bresennol yng nghanol y ddinas bob dydd Llun.
“Mae’n bwysig nawr ein bod ni’n parhau i gefnogi holl fasnachwyr canol y ddinas a bydd y cyfnod estynedig o fasnachu rhydd yn dod â mwy o ymwelwyr i weld drostynt eu hunain sut mae’r ddinas yn newid a pha gymysgedd ardderchog o fusnesau sydd gennym yma.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ein holl farchnadoedd yn Wrecsam drwy fynd i’n gwefan marchnadoedd.
Os oes gennych ddiddordeb mewn masnachu gyda ni, cysylltwch â ni wrexhammarkets@wrexham.gov.uk