Gan ei bod hi’n wanwyn bellach, a’r haf ar y ffordd, bydd rhai ohonom yn meddwl – neu hyd yn oed wedi cychwyn – cael barbeciws yn yr ardd gefn…ond pan fyddwch chi’n cynnal barbeciw, peidiwch ag anghofio ailgylchu.
Dywedodd y Cyng. David A Bithel, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Chludiant, “Mae’r cyfyngiadau yng Nghymru yn caniatáu i hyd at chwech o bobl o chwe aelwyd wahanol gyfarfod y tu allan gan gadw pellter cymdeithasol a mesurau hylendid, gan gynnwys mewn gerddi preifat. Felly mae’r posibilrwydd o fwynhau bwyd y tu allan gyda theulu a ffrindiau yn apelio’n arw ar ôl methu â gwneud hynny am gymaint o fisoedd.
“Ond os ydych chi’n mynd i fod yn cael barbeciws yn y dyfodol agos, mae’n bwysig cofio ailgylchu. Oherwydd fod bwyd yn cael ei goginio a’i fwyta y tu allan, nid yw hyn yn golygu y dylem ni drin y bwyd na’r paced amdano yn wahanol. Rydym yn gofyn i bobl gadw mewn cof fod llawer o bethau o’r barbeciw y gellir eu hailgylchu.”
Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.
Sbarion
I ddechrau, gallwch ailgylchu unrhyw fwyd sydd dros ben. Cyngor da yw mynd a’r cadi ailgylchu bwyd y tu allan a rhoi unrhyw sbarion ynddo yn syth. Mae’n gwneud y gwaith glanhau wedyn yn haws – ond cofiwch gadw’r caead ynghau pan na fyddwch yn ei ddefnyddio er mwyn osgoi denu unrhyw bryfed felltith.
Hefyd, ydych chi’n defnyddio ffyn pren ar gyfer eich cebabs? Efallai nad ydych yn sylweddoli ond gellir ailgylchu’r rhain fel gwastraff bwyd yn eich cadi bwyd, yn ogystal â chyllyll a ffyrc pren!
Dim digon o fagiau leinio cadi bwyd?
Peidiwch â phoeni, rydym wedi bod yn darparu bagiau rhad ac AM DDIM i’r cadis ers tro bellach.
Gall unrhyw un sydd angen rholyn newydd glymu bag gwag i handlen eu cadi ar eu diwrnod casglu nesaf, a bydd y criw ailgylchu yn rhoi rholyn newydd i chi yn rhad ac am ddim.
A pheidiwch ag anghofio, os ydych angen cadi bwyd newydd, gallwch archebu un am ddim ar ein gwefan.
Hambyrddau cig
Wrth wneud barbeciw, fel arfer bydd llawer o hambyrddau plastig i ddal y cigoedd, a gellir ailgylchu pob hambwrdd plastig dal cig, yn Wrecsam.
Gwnewch yn siŵr nad oes gweddillion cig arnynt wrth i chi eu hailgylchu….mae hynny’n bwysig iawn. Nid yw’n waith mawr – eu golchi’n gyflym mewn hen ddŵr golchi llestri sy’n ddigon da – a golyga hyn y gellir ei ailgylchu yn gynnyrch o well ansawdd o lawer.
Angen eich atgoffa beth sy’n cael mynd i’r cadi bwyd?
Peidiwch â phoeni, rydym yma i helpu. Yn ogystal â phopeth y byddwch chi’n ei wybod eisoes, edrychwch ar y rhestr hon o rai o’r bwydydd na fyddwch chi wedi meddwl amdanynt o reidrwydd, fel:
• Bwyd sydd dros y dyddiad
• Esgyrn a charcasau
• Plisgyn wyau
• Croen banana (a philion eraill)
• Calonnau afalau
• Coffi mân
• Bwydydd amrwd
• Bwydydd sydd wedi llwydo
• Crafion platiau
• Prydau parod heb eu bwyta
• Bwyd brys (e.e. sglodion a phitsas)
• Pysgod cregyn
Fel arfer, diolch am ailgylchu a gwneud eich rhan dros Wrecsam 🙂
Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF