Mae’r Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant a Dirprwy Arweinydd y Cyngor wedi lleisio ei bryderon, er gwaethaf addewidion am well cysylltiadau rheilffordd rhwng Wrecsam a Bidston, fod biwrocratiaeth bellach wedi gadael y cynlluniau ar gyfer 2 drên yr awr i fyny yn yr awyr.
Mae ORR yn cyflafareddu rhwng Trafnidiaeth Cymru a chwmni cludo nwyddau ym Mhenyffordd sy’n rhedeg trenau dros y rheilffordd.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Dywedodd y Cynghorydd Bithell, “Mae’n ymddangos bod yr ORR yn ceisio datrys anghydfod ynghylch pwy sydd â ffafriaeth i redeg trenau ar y lein, sy’n anghredadwy ac yn rhwystredig yn fy marn i gan fod addewidion wedi’u gwneud y byddai gan Wrecsam ddau drên yr awr erbyn Mai 2022.
“Ar un llaw dywedir wrthym fod gwelliannau ar yr A483 yn cael eu gohirio ar gyfer adolygiad ffyrdd a nawr bod trenau cludo nwyddau yn cael ffafriaeth dros deithwyr. Rydym hefyd yn cael ein hannog yn frwd i hyrwyddo a chefnogi defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a chynlluniau Teithio Llesol.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Bithell, “Mae’r rhwydwaith rheilffyrdd yn rhedeg 24 awr ac anogodd yr ORR i ddod o hyd i ateb gyda Thrafnidiaeth Cymru ac mae wedi gofyn i ASau lleol lobïo Ysgrifennydd Gwladol y DU Grant Shapps i ymyrryd.
“Rwyf hefyd wedi ysgrifennu at Lesley Griffiths Aelod o’r Senedd a Sarah Atherton Aelod Seneddol Wrecsam yn eu hannog i wneud sylwadau.”
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL