Croesawodd Wrecsam ymwelwyr arbennig yn ddiweddar pan wnaeth Pwyllgor Meysydd Chwarae Cymru gyfarfod yn y Parciau – fel arfer dim ond yng Nghaerdydd fyddan nhw’n cyfarfod.
Pam Wrecsam?
Wel, mae’n debyg bod faint o dir sydd wedi’i ddiogelu rhag datblygiad yn y dyfodol drwy ei ddynodi’n “Feysydd Chwarae Cymru” wedi creu argraff arnynt ac roeddent am glywed mwy am fanteision diogelu tir – a hefyd a oedd unrhyw broblemau gyda thir pan fyddai wedi’i ddiogelu.
Yn Wrecsam mae 30 safle, ac mae’r rhan fwyaf wedi’u dynodi rhwng 2007 a 2014 – ac un o’r mwyaf diweddar oedd dynodi tir yn y Parciau fel Cae Canmlwyddiant i goffau’r Rhyfel Byd Cyntaf.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Dywedodd yr Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd David A Bithell: “Roedd yn ddiddorol iawn siarad â Meysydd Chwarae Cymru a hefyd gwybod bod y gwaith rydym wedi’i wneud yma yn Wrecsam yn cael ei gydnabod ar lefel genedlaethol. Rydym yn gobeithio eu gweld yn ôl yma yn fuan iawn a byddem bob amser yn rhoi croeso cynnes iddynt.”
Dywedodd Cadeirydd Meysydd Chwarae Cymru, Brynmor Williams: “Rydym yn hynod o ddiolchgar am y safleoedd mae’r cyngor wedi’u diogelu gyda ni dros y blynyddoedd a’r berthynas ardderchog sydd gennym, a hir oes i hynny. Rwy’n gobeithio y byddwn yn gallu datblygu prosiectau eraill a all gael eu defnyddio i wella tir yn Wrecsam.”
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION