Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ymunwch â’r miliynau sy’n cymryd rhan yn Gorffennaf Heb Blastig
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Wrexham bus station - stand 5
Isio gwybod ble i ddal y bws gwennol o ganol dinas Wrecsam i’r Maes?
Digwyddiadau Pobl a lle
Jan Picken, Senior MIS Support and Training Officer for Wrexham Council
Ysgolion Wrecsam yn elwa o gyfres meddalwedd SGR newydd a gynhelir yn y cwmwl
Busnes ac addysg
Mae cyfleoedd gwaith newydd wedi glanio – darllenwch ymlaen i ddysgu mwy!
Mae cyfleoedd gwaith newydd wedi glanio – darllenwch ymlaen i ddysgu mwy!
Busnes ac addysg
Free pre-loved school uniform shop opens in the Wellbeing Hub.
Siop gwisgoedd ysgol ail-law am ddim yn agor yn yr Hwb Lles
Busnes ac addysg Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Plastic Free July - reusable water bottle
Dewiswch ailddefnyddio a gallwch helpu’r amgylchedd
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datgarboneiddio Wrecsam > Ymunwch â’r miliynau sy’n cymryd rhan yn Gorffennaf Heb Blastig
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Ymunwch â’r miliynau sy’n cymryd rhan yn Gorffennaf Heb Blastig

Diweddarwyd diwethaf: 2025/07/11 at 4:06 PM
Rhannu
Darllen 8 funud
Plastic Free July
RHANNU

Mae Gorffennaf Heb Blastig yma! Mae’r mudiad byd-eang sy’n helpu miliynau o bobl i fod yn rhan o’r ateb i lygredd plastig yn anelu at greu strydoedd, cefnforoedd a chymunedau hardd glanach.

Cynnwys
Cwblhewch un o’n heriau i hawlio potel ddŵr amldro am ddimMae’r siop ailddefnyddio’n rhoi bywyd newydd i’ch deunyddiau plastigAilgylchu plastig yn WrecsamBeth nad ydw i’n gallu eu hailgylchu ar ymyl y palmant?A ydw i’n gallu ailgylchu deunyddiau plastig o’r ardd?

Y cwestiwn mawr yw ‘a allwch chi ymwrthod â phlastig untro gydol mis Gorffennaf?’ Gall hyn ymddangos yn heriol, ond yn aml mae dewisiadau amgen i’r plastigau untro sydd bellach mor gyffredin yn ein bywydau bob dydd.

Dyma rai pethau y gallwch chi eu gwneud i leihau eich defnydd o blastig:

  • Defnyddio neu fenthyg cwpan goffi y gellir ei hailddefnyddio, neu beth am fwyta i mewn yn eich caffi lleol?
  • Ceisiwch ddod o hyd i opsiynau di-blastig wrth brynu ffrwythau a llysiau (prynwch ffrwythau a llysiau rhydd lle bo modd)
  • Defnyddiwch eich bagiau siopa eich hunan y gellir eu hailddefnyddio
  • Dewch â photel ddŵr y gellir ei hailddefnyddio yn hytrach na phrynu rhai plastig
  • Osgowch yr hambyrddau plastig a ddefnyddir ar gyfer cig, pysgod ac eitemau deli 
  • Ailddefnyddiwch gynwysyddion bocsys bwyd
  • Ceisiwch ddefnyddio pecynnau bwyd y gellir eu hailddefnyddio yn hytrach na ffilm blastig
  • Defnyddiwch far sebon yn hytrach na sebon hylif
  • Rhowch gynnig ar gynnyrch di-blastig yn eich cartref – er enghraifft, sbyngau glanhau a chwistrellwyr glanhau y gellir eu hail-lenwi

Gallwch ddysgu mwy a chymryd rhan drwy ymweld â gwefan Gorffennaf di-blastig.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Cwblhewch un o’n heriau i hawlio potel ddŵr amldro am ddim

Mae nifer o boteli dŵr amldro gennym i’w rhoi i ffwrdd, ond i hawlio eich un chi bydd angen i chi gwblhau un o’n heriau ailgylchu yn gyntaf!

Bydd ein tîm strategaeth gwastraff ym Mharc Gwledig Tŷ Mawr Ddydd Mercher, 16 Gorffennaf rhwng 12:30pm – 2:30pm ac os ydych chi eisiau codi potel am ddim galwch draw i ddangos tystiolaeth iddynt o gwblhau eich her. Yr heriau yw:

  • Tynnwch sgrinlun i ddangos i ni eich bod wedi cofrestru i dderbyn ein negeseuon e-bost Awgrymiadau a Gwybodaeth Ailgylchu
  • Hunlun ohonoch yn rhoi eich cadi gwastraff bwyd allan ar eich diwrnod casglu
  • Dwedwch wrthym am eitem anarferol rydych chi wedi llwyddo i’w ailgylchu yn ddiweddar e.e. olew coginio, ffôn symudol, matres, beic
  • Tynnwch lun o bryd bwyd rydych chi wedi’i wneud gyda’ch bwyd dros ben e.e. tostyn/omled gyda ham dros ben, sbigoglys neu domatos wedi’u sleisio
  • Dwedwch wrthym am wrthrych rydych chi wedi’i drwsio neu ei uwchgylchu i roi bywyd newydd iddo
  • Hunlun ohonoch yn ymweld â Siop ailddefnyddio Nightingale House yng nghanolfan ailgylchu Lôn y Bryn
  • Dwedwch wrthym beth yw eich hoff ‘awgrym’ neu ‘hac’ ailgylchu sy’n eich gwneud chi’n arch ailgylchwr

Dim ond un o’r heriau hyn sydd angen i chi eu cwblhau i gael eich potel am ddim, ond mae croeso i chi wneud mwy.

Mae’r poteli wedi’u cyfyngu i un yr un a dim ond ar y diwrnod y gellir eu hawlio gan ein tîm.

Os ydych chi’n mwynhau ymweld â’n parciau gwledig, dylech edrych ar y gorsafoedd ail-lenwi dŵr defnyddiol sydd gennym ym Mharc Gwledig Tŷ Mawr a Pharc Bellevue.  Talwyd amdanynt gan ddefnyddio cronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru ac mae’r gorsafoedd yn caniatáu i chi ychwanegu at eich potel ddŵr amldro wrth i chi fwynhau eich taith gerdded.

Mae’r siop ailddefnyddio’n rhoi bywyd newydd i’ch deunyddiau plastig

Os ydych chi’n bwriadu gwaredu eitemau plastig fel dodrefn gardd neu deganau, a’u bod nhw mewn cyflwr da, yna beth am eu rhoi i’r siop ailddefnyddio yng nghanolfan ailgylchu Lôn y Bryn…yn ogystal ag ailgylchu’r eitemau, mi fyddwch chi hefyd yn helpu elusen leol.

Hosbis Tŷ’r Eos sy’n rhedeg y siop a gallwch gyfrannu yn unrhyw un o’r tair canolfan ailgylchu yn Wrecsam. Mae ardal wedi’i neilltuo ar gyfer pobl sy’n dymuno gadael eitemau ym mhob un ohonynt…os nad ydych chi’n siŵr ble i fynd, gofynnwch i un o’n cynorthwywyr a fydd yn hapus i’ch helpu.

Ailgylchu plastig yn Wrecsam

A wyddoch chi y gallwch ailgylchu POB potel blastig a PHOB mathau o hambyrddau bwyd plastig, potiau plastig a thybiau plastig ar ochr y ffordd yn Wrecsam? Dylai dilyn hyn eich cadw chi ar y trywydd cywir.

Dwedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd: “Mae’n bwysig iawn gwneud yn siŵr bod unrhyw blastigau rydych chi’n eu defnyddio yn cael eu hailgylchu, ac yn Wrecsam mae modd ailgylchu llawer o gynwysyddion plastig. Mae hyn yn cynnwys pethau na fyddwch o reidrwydd yn meddwl amdanynt fel poteli siampŵ, poteli glanhau, potiau iogwrt a thybiau margarîn.”

Ond, i’ch helpu chi i ddeall hyn ychydig yn well, dyma ychydig o enghreifftiau o’r eitemau arferol o’r cartref sy’n gallu cael eu hailgylchu. Sef:

  • Potiau iogwrt
  • Tybiau menyn/margarin
  • Tybiau prydau parod
  • Poteli siampŵ
  • Poteli gel cawod
  • Poteli cynnyrch glanhau cegin/ystafell ymolchi (yn cynnwys rhai chwistrellu)
  • Basgedi ffrwythau (ond nid y ffilm na’r papur swigod)
  • Y bocsys clir mae bwyd Tsieineaidd/Indiaidd yn aml yn dod ynddyn nhw
  • Poteli ysgytlaeth
  • Hambyrddau cig
  • Tybiau hufen iâ
  • Tybiau siocled mawr (Quality Street, Celebrations ac ati)

Ond gwnewch yn siŵr eu bod nhw’n lân, heb unrhyw weddillion bwyd na diod ynddyn nhw cyn i chi eu rhoi yn y cynwysyddion ailgylchu.

Beth nad ydw i’n gallu eu hailgylchu ar ymyl y palmant?

Y pethau mwyaf cyffredin y mae pobl yn ceisio eu hailgylchu nad oes modd eu hailgylchu ar hyn o bryd ar ymyl y palmant yw bagiau bwyd plastig o bob math, bagiau cario plastig, cling ffilm, plastig swigod a phecynnau creision. Gellir ailgylchu rhai o’r eitemau hyn yn lleoliadau blaen siop rhai archfarchnadoedd.

Yn ogystal â’r eitemau uchod, ni allwn dderbyn eitemau polystyren, plastigion caled (gellir ailgylchu’r rhain yn ein canolfannau ailgylchu) teganau, bocsys Tupperware, pecynnau fferins, tiwbiau past dannedd, raseli plastig, neu becynnau reis y gellir eu rhoi yn y ficrodon.

A ydw i’n gallu ailgylchu deunyddiau plastig o’r ardd?

Nid oes modd ailgylchu deunyddiau plastig o’r ardd, megis potiau planhigion, ar ymyl y palmant ar hyn o bryd, ond gallwch eu hailgylchu yn unrhyw un o’r tair canolfan ailgylchu yn Wrecsam.

Gellir ailgylchu deunyddiau plastig caled eraill megis a CD/DVD yma hefyd.

I gael rhagor o wybodaeth am ailgylchu yn Wrecsam, ewch i wrecsam.gov.uk/ailgylchu

Dyw hi (dal) ddim yn rhy hwyr i gofrestru ar gyfer casgliadau gwastraff gardd – Newyddion Cyngor Wrecsam

Gallwch dderbyn gwybodaeth ac argymhellion ailgylchu yn syth i’ch mewnflwch

TAGGED: gwastraff, plastic, plastig, recycling, waste
Rhannu
Erthygl flaenorol housing repairs van Lleihau’r ôl-groniad atgyweiriadau yn sylweddol, gan nodi cynnydd mawr wrth ddarparu gwasanaethau i Gyngor Wrecsam
Erthygl nesaf Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wrexham bus station - stand 5
Isio gwybod ble i ddal y bws gwennol o ganol dinas Wrecsam i’r Maes?
Digwyddiadau Pobl a lle Gorffennaf 30, 2025
Jan Picken, Senior MIS Support and Training Officer for Wrexham Council
Ysgolion Wrecsam yn elwa o gyfres meddalwedd SGR newydd a gynhelir yn y cwmwl
Busnes ac addysg Gorffennaf 29, 2025
Mae cyfleoedd gwaith newydd wedi glanio – darllenwch ymlaen i ddysgu mwy!
Mae cyfleoedd gwaith newydd wedi glanio – darllenwch ymlaen i ddysgu mwy!
Busnes ac addysg Gorffennaf 25, 2025
Free pre-loved school uniform shop opens in the Wellbeing Hub.
Siop gwisgoedd ysgol ail-law am ddim yn agor yn yr Hwb Lles
Busnes ac addysg Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Gorffennaf 25, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrexham bus station - stand 5
DigwyddiadauPobl a lle

Isio gwybod ble i ddal y bws gwennol o ganol dinas Wrecsam i’r Maes?

Gorffennaf 30, 2025
Free pre-loved school uniform shop opens in the Wellbeing Hub.
Busnes ac addysgDatgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Siop gwisgoedd ysgol ail-law am ddim yn agor yn yr Hwb Lles

Gorffennaf 25, 2025
Plastic Free July - reusable water bottle
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Dewiswch ailddefnyddio a gallwch helpu’r amgylchedd

Gorffennaf 25, 2025
Cwblhau prosiectau adfywio treftadaeth pellach yn ardal gadwraeth Canol Dinas Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cwblhau prosiectau adfywio treftadaeth pellach yn ardal gadwraeth Canol Dinas Wrecsam

Gorffennaf 25, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English