Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dyw hi (dal) ddim yn rhy hwyr i gofrestru ar gyfer casgliadau gwastraff gardd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Dyw hi (dal) ddim yn rhy hwyr i gofrestru ar gyfer casgliadau gwastraff gardd
Y cyngor

Dyw hi (dal) ddim yn rhy hwyr i gofrestru ar gyfer casgliadau gwastraff gardd

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 10, 2025 11:50 am
Rhannu
Darllen 5 funud
Green garden waste bin
RHANNU

Os na wnaethoch chi gofrestru ar gyfer casgliadau gwastraff gardd yn gynharach yn y flwyddyn ac yn difaru peidio, na phoener – dyw hi ddim yn rhy hwyr i ymuno â’r gwasanaeth.

Cynnwys
  • Talwch ar-lein lle bo hynny’n bosibl
  • Dim sticeri bin
  • Telerau ac Amodau
  • Beth galla i ei wneud gyda fy ngwastraff gardd os nad ydw i eisiau talu am y gwasanaeth casglu?
  • Gallwch dderbyn gwybodaeth ac argymhellion ailgylchu yn syth i’ch mewnflwch
  • Ydych chi’n derbyn ein e-byst i’ch atgoffa am eich bin?

Mae’r tâl gwasanaeth wedi ei rewi ar £35 y bin ac yn rhedeg o’r dyddiad y byddwch chi’n cofrestru hyd at 31 Mawrth, 2026, felly mae’n well cofrestru cyn gynted â phosibl er mwyn cael y gwerth gorau. Yn syml, po gynharaf y byddwch chi’n ymuno, y mwyaf o gasgliadau y byddwch chi’n eu cael.

Talwch ar-lein lle bo hynny’n bosibl

Y ffordd hawsaf i dalu am y gwasanaeth yw ar-lein yn wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd.

Gall unrhyw breswylwyr a hoffai gael ychydig o gymorth i wneud taliad ar-lein ymweld â Galw Wrecsam yn Llyfrgell Wrecsam, neu gallwch alw heibio eich swyddfa ystâd dai leol. Rhowch wybod i’n staff eich bod am dalu am eich casgliadau gwastraff gardd a byddant yn eich helpu drwy’r broses, a gallant hyd yn oed eich helpu i greu cyfeiriad e-bost os nad oes un gennych.

Gall ffrind neu berthynas danysgrifio ar-lein ar eich rhan.

Rhaid bod gennych gyfeiriad e-bost i danysgrifio ar-lein. Os nad oes un gennych, gallwch ffonio Strydlun ar 01978 298989 i dalu â cherdyn.

Dywedodd y Cyngh Terry Evans, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth: “Wrth i’r haf agosáu a phobl yn defnyddio eu gerddi mwy, rydyn ni eisiau atgoffa preswylwyr y gallan nhw ymuno â’r cynllun casglu gwastraff gardd o hyd. Os ydych chi nawr eisiau ymuno, ewch draw i wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd a dilyn y cyfarwyddiadau i dalu am y gwasanaeth.

“Os oes angen unrhyw gymorth arnoch i wneud eich taliad, gallwch gael hwn yn Galw Wrecsam yn Llyfrgell Wrecsam, neu o’r swyddfeydd ystadau tai. Hefyd gallwch ffonio Strydlun ar 01978 298989 i wneud eich taliad.”

Dim sticeri bin

Eleni ni fyddwn yn anfon sticeri bin fel rhan o’r gwasanaeth casglu gwastraff gardd. Yn hytrach, byddwn yn defnyddio ein system logistaidd i nodi eiddo sydd wedi talu am y gwasanaeth diweddaraf. Rydym yn argymell i chi arddangos eich enw neu rif eich tŷ ar eich bin gwyrdd i’w gwneud hi’n haws i ni baru’ch bin yn erbyn y manylion ar ein system.

Telerau ac Amodau

Yn flaenorol rydym wedi anfon telerau ac amodau’r gwasanaeth gwastraff gardd fel rhan o’ch pecyn sticeri biniau. Gan na fyddwn bellach yn anfon sticeri bin, ni fyddwn yn anfon copïau papur o’r telerau a’r amodau.

Yn hytrach, byddwch yn gallu gweld y rhain ar-lein neu os byddai’n well gennych, gallwch gasglu copi papur mewn person o Galw Wrecsam.

Beth galla i ei wneud gyda fy ngwastraff gardd os nad ydw i eisiau talu am y gwasanaeth casglu?

Gallwch fynd â’ch gwastraff gardd i un o ganolfannau ailgylchu gwastraff y cartref (yn rhad ac am ddim). Fel arall, gallech gompostio gwastraff gardd gartref. Cymerwch olwg ar ganllaw Cymru’n Ailgylchu ar ‘Sut i sefydlu compostio gartref’ sy’n darparu gwybodaeth ddefnyddiol.

Am fwy o wybodaeth, ewch i wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd

Gallwch dderbyn gwybodaeth ac argymhellion ailgylchu yn syth i’ch mewnflwch

Os ydych yn cofrestru i dderbyn ein hysbysiadau e-bost ar Wybodaeth ac Argymhellion Ailgylchu, gallwn anfon ein straeon newyddion diweddaraf ac argymhellion i chi, er mwyn eich helpu i gael y mwyaf allan o’ch ailgylchu, cyngor lleol (gan gynnwys newidiadau sy’n effeithio arnoch chi), a manylion ar ymgyrchoedd sydd ar y gweill i chi gymryd rhan ynddynt.

Darllenwch fwy…

Ydych chi’n derbyn ein e-byst i’ch atgoffa am eich bin?

Pan fyddwch chi’n cofrestru i dderbyn y rhybuddion, fe fyddwch chi’n cael e-bost i’ch atgoffa cyn eich casgliad nesaf, ond mae hefyd yn ffordd dda i ni gysylltu â chi am unrhyw amhariadau allai effeithio ar y gwasanaeth. Os hoffech chi e-byst i’ch atgoffa am eich bin, cliciwch yma a dilynwch y ddolen i gofrestru.

Cyflwyno gwasanaeth ailgylchu podiau coffi yng nghanolfannau ailgylchu Wrecsam – Newyddion Cyngor Wrecsam

Pryd mae fy miniau’n cael eu casglu? Gwiriwch ddiwrnod casglu eich bin a chofrestrwch i gael nodiadau atgoffa.

TAGGED:ailgylchubiniaubinsgarden wastegwastraffgwastraff garddwaste
Rhannu
Erthygl flaenorol HMS Dragon Draig yn dod i Wrecsam
Erthygl nesaf Lend & Mend Ty Pawb logo Benthyca a Thrwsio yn Nhŷ Pawb – benthyca clyfar, byw yn gynaliadwy!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Crematorium
Gwaith gwella wedi’i gynllunio yn Amlosgfa Pentrebychan
Y cyngor
Medi 16, 2026
Dyfarnwyd grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i Tŷ Pawb i ddatblygu cynlluniau ar gyfer gwella'r adeilad.
Dyfarnwyd grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i Tŷ Pawb i ddatblygu cynlluniau ar gyfer gwella’r adeilad.
Pobl a lle
Medi 16, 2026
The Longest Yarn 2
Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!
Arall Digwyddiadau
Medi 15, 2026
Dysgu yn Wrecsam
Defnyddiwch yr offeryn defnyddiol hwn i ddarllen a gwrando ar newyddion a gwybodaeth y cyngor mewn unrhyw iaith
Busnes ac addysg
Medi 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam

Medi 15, 2026
Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy
Y cyngor

Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy

Medi 15, 2026
Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi
Y cyngor

Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi

Medi 15, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English