Hoffem atgoffa ein preswylwyr sydd wedi tanysgrifio i’r gwasanaeth casglu gwastraff gardd y byddwn yn casglu eich bin(iau) gwyrdd bob pythefnos eto o fis nesaf (Mawrth).
Meddai’r Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Roedd cael casgliadau gwastraff gardd yn Rhagfyr, Ionawr a Chwefror yn caniatáu i ni roi amser i staff ddelio gyda materion problematig a achoswyd gan y gaeaf, megis llwybrau graeanu neu waith cynnal a chadw cyffredinol.
“Ond wrth i ni symud tuag at y gwanwyn, gobeithio y bydd yn cynhesu rhywfaint a bydd preswylwyr yn gallu defnyddio eu bin(iau) gwyrdd yn amlach, felly bydd y casgliadau hyn yn dychwelyd yn ôl i bob pythefnos o fis Mawrth ymlaen.”
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Heb gofrestru ar gyfer 2021/22, ond yn dymuno gwneud?
Os nad ydych wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth casglu gwastraff gardd yn flaenorol, ond yn dymuno i ni gasglu eich bin(iau) gwyrdd dros y gwanwyn a’r haf, nid yw’n rhy hwyr i gofrestru.
Mae’n costio £25 fesul bin, gyda’n gwasanaeth presennol yn rhedeg tan 2 Medi, 2022, felly gallwch ddal gael gwerth 6 mis o gasgliadau os ydych yn cofrestru’n fuan.
Gallwch gofrestru drwy fynd i www.wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd , sef y ffordd gyflymaf a’r mwyaf cyfleus. Fel arall, gallwch ffonio 01978 298989, er efallai bydd gofyn i chi aros mewn ciw os ydych chi’n gwneud hyn.
Rhewi cost gwasanaeth hyd Fedi 2023
Mae cost eich gwasanaeth casglu gwastraff gardd wedi ei rewi ar £25 fesul bin gwyrdd y flwyddyn am y flwyddyn gwasanaeth nesaf (Medi 2022-Awst 2023).
Ychwanegodd y Cynghorydd Bithell: “Rydym yn falch o allu rhewi cost y gwasanaeth tan fis Medi 2023. Bydd y gost o £25 fesul bin gwyrdd y flwyddyn yn cadw cost gwasanaeth Wrecsam yn llai na nifer o awdurdodau eraill yng Nghymru a Lloegr.
Rydym yn disgwyl i’r system adnewyddu ar gyfer gwasanaeth Medi 2022-Awst 2023 agor yn yr haf. Peidiwch a cheisio adnewyddu cyn i ni roi’r manylion hyn i chi.
Cael rhybudd yn eich atgoffa i roi eich bin allan
Gallwch gadw llygad ar bryd i roi eich biniau gwastraff gardd allan drwy gofrestru ar gyfer ein hysbysiadau casglu sbwriel. Byddwch yn cael rhybudd dros e-bost ddiwrnod cyn y casgliad i’ch atgoffa chi. Os ydych eisoes yn cael yr e-byst hyn, nid oes arnoch chi angen newid dim byd.
Fel arall, gallwch lawrlwytho ac argraffu’r calendrau diweddaraf.
Ansicr os ydych yn galendr 1 neu galendr 2? Dim problem, ychwanegwch eich cod post neu enw stryd yma i wybod pa galendr casgliad ydych chi.
Gwneud yn siŵr eich bod yn cael y rhybuddion cywir
Ydi’r sawl sydd yn rhoi’r biniau allan ar gyfer eich tŷ yn cael y rhybuddion cywir gennym ni? Os yw’r cyfeiriad e-bost wedi newid ers cofrestru ar gyfer y gwasanaeth casglu gwastraff gardd, yr oll rydych angen ei wneud yw llenwi ein ffurflen gwirio’ch diwrnod bin.
Yr oll ydych angen ei gynnwys yw eich cod post, cyfeiriad ac e-bost a phwyso cyflwyno, drwy wneud hynny bydd eich system atgoffa ar e-bost yn diweddaru yn awtomatig a sicrhau eich bod yn cael y nodyn atgoffa.
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL