Mae Freedom Leisure, sy’n gweithredu ein canolfannau hamdden a gweithgareddau, wedi nodi fod busnes yn ôl i’r arfer bron ar ôl y cyfnod clo llym a’u gorfododd i gau eu drysau ym mis Rhagfyr.
- Daeth 45,000 o bobl i gyfleuster yn Wrecsam yn ystod mis Mai
- Mae Aelodaeth y canolfannau a’r rhaglen Dysgu Nofio yn prysur gyrraedd 90% o lefel aelodaeth cyn-Covid ym Mawrth 2020
- Mae’r rhaglen Dysgu Nofio cynradd, y rhaglen i rai dros 60 oed a’r Rhaglen Genedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff – i gyd wedi ailgychwyn yr wythnos hon gyda chanllawiau dychwelyd yn ddiogel.
Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.
Dywedodd Andy Harris, Rheolwr Freedom Leisure: “Mae’n braf bod yn ôl ac agor ein drysau unwaith eto. Yn ôl yr ymateb gadarnhaol rydym wedi ei gael gan ein cwsmeriaid, mae’n glir eu bod nhw wedi ein colli ni ac rydym wedi bod yn falch o’r niferoedd sy’n gallu dod i’n canolfannau’n ddiogel bellach.
“Wrth i ni barhau â’r broses ailagor dros yr haf, byddwn yn parhau i weithio o fewn canllawiau’r llywodraeth i sicrhau fod ymweliad pawb yn un pleserus a diogel.”
Dywedodd y Cyng. John Pritchard, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrthdlodi: “Mae’n newyddion gwych ac yn amlwg mae cwsmeriaid wedi gweld eisiau gwasanaethau Freedom Leisure.
“Yn amlwg, maen nhw’n lleoliadau poblogaidd iawn. Gobeithio y byddan nhw’n parhau i gael llawer o ddefnydd, a hoffwn ddiolch i bawb sy’n eu mynychu am eu cefnogaeth anhygoel.”
Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF