Mae disgwyl i wasanaeth bws lleol dderbyn gwelliannau i’r amserlen, gan greu gwasanaethau amlach i ganol dinas Wrecsam ac oddi yno.
Mae Gwasanaeth 17, a ddarperir gan Wrexham & Prestige Taxis Ltd yn gweithredu tri diwrnod yr wythnos ar hyn o bryd. Ond, o ddydd Llun, 17 Chwefror, 2025 bydd y gwasanaeth yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Sadwrn gyda gwasanaeth yn ymadael bob awr o orsaf fysus Wrecsam. Ni fydd y llwybr yn newid, gan ddarparu cysylltiadau gwell i Stansty, Parc Manwerthu Plas Coch, Moss a Lodge.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, dirprwy arweinydd ac aelod arweiniol tai a newid hinsawdd: “Mae ein hymrwymiad i fuddsoddi mewn, a gwella, gwasanaethau bysus lleol yn parhau gyda’r gwaith o uwchraddio’r amserlen i wasanaeth 17. Bydd hyn nid yn unig yn ei wneud yn haws i breswylwyr fynd i ganol y ddinas, ond bydd hefyd yn darparu gwasanaeth ychwanegol yn ystod y dydd i fynd i Barc Manwerthu Plas Coch, y mae’r cyhoedd yn gofyn amdano o’r adborth yr ydym wedi ei dderbyn.
“Mae Cyngor Wrecsam bellach wedi buddsoddi £400,000 dros ddwy flynedd hyd yma, i ddarparu teithiau ychwanegol gyda’r nos ac ar ddydd Sul, sy’n gwella’r rhwydwaith bysus presennol. Y llynedd ychwanegwyd taith ychwanegol gyda’r nos i wasanaeth 146 rhwng Wrecsam ac Eglwys Wen, er budd pentrefi gan gynnwys Marchwiel, Bangor Is-coed, Owrtyn a Llannerch Banna. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i wella’r rhwydwaith bysus lleol i gynnig dewis arall hyfyw yn lle gorfod gwneud pob taith mewn car. Gellir dod o hyd i wybodaeth amserlenni ac opsiynau cynllunio teithiau yn www.traveline.cymru”.
Ychwanegodd Mark Coates, Rheolwr Gyfarwyddwr, Wrexham & Prestige Taxis Ltd: “Rydym yn falch o ymestyn ein perthynas waith gyda Chyngor Wrecsam. Rydym wedi darparu gwasanaethau bysus lleol ar ran y cyngor ers dros 10 mlynedd, a bydd y gwelliannau i’r amserlen yn sicrhau y gall mwy o gymunedau gael mynediad gwell at wasanaethau a chyfleusterau bob dydd hanfodol”.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.