Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mwy o fysus ar gyfer gwasanaeth bws 17 (Wrecsam-Moss a Lodge)
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Mwy o fysus ar gyfer gwasanaeth bws 17 (Wrecsam-Moss a Lodge)
Y cyngorPobl a lle

Mwy o fysus ar gyfer gwasanaeth bws 17 (Wrecsam-Moss a Lodge)

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 11, 2025 2:25 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Mwy o fysus ar gyfer gwasanaeth bws 17 (Wrecsam-Moss a Lodge)
RHANNU

Mae disgwyl i wasanaeth bws lleol dderbyn gwelliannau i’r amserlen, gan greu gwasanaethau amlach i ganol dinas Wrecsam ac oddi yno.

Mae Gwasanaeth 17, a ddarperir gan Wrexham & Prestige Taxis Ltd yn gweithredu tri diwrnod yr wythnos ar hyn o bryd.  Ond, o ddydd Llun, 17 Chwefror, 2025 bydd y gwasanaeth yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Sadwrn gyda gwasanaeth yn ymadael bob awr o orsaf fysus Wrecsam.  Ni fydd y llwybr yn newid, gan ddarparu cysylltiadau gwell i Stansty, Parc Manwerthu Plas Coch, Moss a Lodge.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, dirprwy arweinydd ac aelod arweiniol tai a newid hinsawdd: “Mae ein hymrwymiad i fuddsoddi mewn, a gwella, gwasanaethau bysus lleol yn parhau gyda’r gwaith o uwchraddio’r amserlen i wasanaeth 17.  Bydd hyn nid yn unig yn ei wneud yn haws i breswylwyr fynd i ganol y ddinas, ond bydd hefyd yn darparu gwasanaeth ychwanegol yn ystod y dydd i fynd i Barc Manwerthu Plas Coch, y mae’r cyhoedd yn gofyn amdano o’r adborth yr ydym wedi ei dderbyn.

“Mae Cyngor Wrecsam bellach wedi buddsoddi £400,000 dros ddwy flynedd hyd yma, i ddarparu teithiau ychwanegol gyda’r nos ac ar ddydd Sul, sy’n gwella’r rhwydwaith bysus presennol. Y llynedd ychwanegwyd taith ychwanegol gyda’r nos i wasanaeth 146 rhwng Wrecsam ac Eglwys Wen, er budd pentrefi gan gynnwys Marchwiel, Bangor Is-coed, Owrtyn a Llannerch Banna. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i wella’r rhwydwaith bysus lleol i gynnig dewis arall hyfyw yn lle gorfod gwneud pob taith mewn car. Gellir dod o hyd i wybodaeth amserlenni ac opsiynau cynllunio teithiau yn www.traveline.cymru”. 

Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, Aelod Etholedig ward Bryn Cefn, “Rwyf wrth fy modd gyda’r newyddion hyn i drigolion lleol, a all nawr elwa o’u gwasanaeth bws lleol sydd wedi’i adfer i’w amlder blaenorol o’r gorffennol.   Nid yn unig y mae’n darparu gwasanaeth rheolaidd yn ystod y dydd, ond drwy weithredu chwe diwrnod yr wythnos bydd yn gwneud teithiau ar gyfer hamdden neu siopa, a chyrraedd apwyntiadau yn llawer mwy cyfleus”.

Ychwanegodd Mark Coates, Rheolwr Gyfarwyddwr, Wrexham & Prestige Taxis Ltd: “Rydym yn falch o ymestyn ein perthynas waith gyda Chyngor Wrecsam. Rydym wedi darparu gwasanaethau bysus lleol ar ran y cyngor ers dros 10 mlynedd, a bydd y gwelliannau i’r amserlen yn sicrhau y gall mwy o gymunedau gael mynediad gwell at wasanaethau a chyfleusterau bob dydd hanfodol”.

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

Rhannu
Erthygl flaenorol Tŷ Pawb i gynnal digwyddiad AM DDIM i ddathlu Dydd Miwsig Cymru Tŷ Pawb i gynnal digwyddiad AM DDIM i ddathlu Dydd Miwsig Cymru
Erthygl nesaf Mr Bob Dutton OBE Teyrnged i Mr Bob Dutton OBE

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysg Pobl a lle
Hydref 21, 2026
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle

Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn

Hydref 20, 2026
Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu
Y cyngor

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu

Hydref 20, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English