Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yw’r sefydliad diweddaraf i addo eu cefnogaeth i goed a choetiroedd yn Wrecsam drwy gofrestru i Addewid Coetir Wrecsam.
Maent yn aelod gwerthfawr o Bartneriaeth Goedwigoedd Wrecsam. Mae Partneriaeth Goedwigoedd Wrecsam yn gwerthfawrogi’r nifer o fuddion cymdeithasol, amgylcheddol, diwylliannol ac economaidd sydd ynghlwm â choed a choetir ac mae’n ymrwymo i gydweithio i ddiogelu, gwella a datblygu ardaloedd o goed ymhellach a phlannu coed ar draws Wrecsam.
Meddai Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, Lhosa Daly:
“Fel elusen gadwraeth fwyaf Ewrop, mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu am natur, harddwch a hanes i bawb. Yn Erddig yn Wrecsam, rydym yn gofalu am barcdiroedd llawn coedwigoedd a choed y mae pobl wedi bod yn eu mwynhau ers dros 300 o flynyddoedd. Erddig yw lleoliad un o goetiroedd coffa newydd Cymru hefyd, lle rydym yn creu coedwig hyfryd er cof am y rheiny a gollodd eu bywydau yn ystod y pandemig Covid-19.
“Y weledigaeth yw y bydd cymunedau ar draws Wrecsam yn cydnabod ac yn dathlu eu hetifeddiaeth goed ac yn gweithio gyda’i gilydd i greu tirwedd gysylltiedig gyda hen goed yn ogystal â choed newydd wrth wraidd ein cymunedau nawr ac i’r dyfodol.
“Mae coed yn rhan hanfodol o’n bywydau; maent yn glanhau’r aer yr ydym yn ei anadlu, yn amsugno carbon wrth iddynt dyfu ac yn darparu cartrefi i fywyd gwyllt. Drwy gefnogi Addewid Coetir Cymru, rydym yn cytuno i weledigaeth gyffredin i ddiogelu dyfodol coed a choetiroedd Wrecsam er lles natur, hinsawdd a phobl.”
Mae Partneriaeth Goedwigoedd Wrecsam yn cynnwys nifer o sefydliadau allweddol sy’n gweithredu o fewn Wrecsam, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, Coed Cadw, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Cadwch Gymru’n Daclus, Llais y Goedwig ac Ymddiriedolaeth Dyffryn Dyfrdwy yn ogystal â sefydliadau sy’n deall gwerth coed a choetir mewn perthynas ag iechyd a lles, megis Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam, Prifysgol Glyndŵr, bwrdd iechyd y GIG a llawer mwy.
Rydym yn annog pawb, o aelodau’r cyhoedd i fusnesau a grwpiau cymunedol, i gefnogi Addewid Coetir Wrecsam a chydweithio i ddiogelu coed a choedwigoedd ar ein cyfer ni yn ogystal â chenedlaethau’r dyfodol. Diolchwn i’r busnesau a’r sefydliadau sydd wedi ymuno ers y lansiad ym mis Medi, sef:
- Coed Cadw
- Ellison Europe Ltd
- Fairways Groundcare
- For Trees UK
- Cyngor Cymuned Gresffordd
- Jones Family Funeral Directors
- Llais y Goedwig
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
- Platts Agriculture Ltd
- Byddin yr Iachawdwriaeth
- Ystafell Ddosbarth Coetir
- Woodswork CIC
- Codwyr sbwriel Wrecsam
Rydym wedi datblygu’r addewid coetir gan eu bod yn cydnabod bod coed a choetiroedd yn elfen hanfodol o dreflun a thirwedd y fwrdeistref sirol ac yn rhan annatod o les, iechyd ac ansawdd bywyd i bawb sy’n byw, gweithio ac yn ymweld â Wrecsam.
Mae coed yn ychwanegu gwerth amgylcheddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol sylweddol i’r fwrdeistref sirol. Fodd bynnag, ni ellir cymryd y dyfodol yn ganiataol, mae newid hinsawdd, plâu ac afiechydon, datblygiad, ymarferion amaethyddol modern a chanfyddiadau anghywir o ran risg yn rhai o’r problemau sy’n bygwth ein coed.
Mae’r Addewid yn ystyried pedair elfen allweddol:
1. Creu coetir
Plannu coed i greu coetir newydd neu ymestyn coetiroedd presennol ar draws Wrecsam. Ein helpu i blannu rhagor o goed trwy ymuno ag un o’n cynlluniau plannu coed ar draws y sir.
2. Cadwraeth coetir
Diogelu a gwella ardaloedd coetir presennol ar gyfer bioamrywiaeth, adfer newid hinsawdd a sicrhau cynefinoedd o ansawdd da.
3. Dathlu coetir
Caniatáu cyswllt â natur mewn coetiroedd ar gyfer iechyd, lles, chwarae ac addysg.
4. Cymeradwyo coetir
Deall pa mor werthfawr yw coed a choetiroedd i’n bywydau bob dydd.
Rydym yn gwahodd pobl i roi adborth i ni am y 4 thema o beth mae Coetir a Choed yn ei olygu iddyn nhw yn ogystal ag enwebu ardaloedd ar gyfer plannu coed a chydnabyddiaeth arbennig. Mae arnom ni eisiau i bobl Wrecsam gyfrannu at ddiogelu a dathlu ein hetifeddiaeth goed gyfoethog a bydd Addewid Coetir Wrecsam yn galluogi pobl i leisio eu cefnogaeth. Drwy ymuno â’r addewid, mae arnom ni eisiau cynnig ffordd i bobl deimlo’n rhan o rywbeth mwy, neu gadw mewn cysylltiad â’r cyngor a sefydliadau eraill ac ymuno â digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn.
Gallwch arwyddo’r addewid yma: