Rydym eisoes wedi edrych ar nifer o fusnesau o amgylch y dref ar y blog hwn, gan gynnwys Café in the Corner, Mad4Movies, Just Desserts, Wrexham.com a King Street Coffee.
Dywedodd llawer o’r rhai a gafodd eu cyfweld fod gwerthiant yn dda a mynegwyd positifrwydd am y gwelliannau i ganol y dref.
Ac mae mwy o newyddion da i ganol y dref gan fod y nifer uchaf erioed o ymwelwyr wedi ymweld â chanol y dref mewn un wythnos yr haf hwn.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Daeth mwy na 100,000 o ymwelwyr i ganol y dref yn ystod wythnos ym mis Awst, gan gyrraedd yr uchafbwynt yn ystod gwyliau haf yr ysgolion.
Cyrhaeddodd nifer yr ymwelwyr ar y stryd fawr 102,487 yn ystod yr wythnos yn cychwyn dydd Sul, Awst 13, gyda’r nifer o ymwelwyr uchaf mewn diwrnod – 17,462 – ddydd Sadwrn, Awst 19.
Caiff y nifer o ymwelwyr ei gyfrif gan beiriant cyfrif cerddwyr newydd ar gornel Stryt yr Hôb a Stryt Y Rhaglaw.
“arwydd pellach o hyder yng nghanol ein tref”
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Perfformiad Economaidd ac Adfywio: “Rwy’n falch iawn o weld fod y ffigwr wythnosol wedi pasio 100,000 – mae hynny’n wych am un wythnos.
“Rydym fel arfer yn disgwyl nifer dda o ymwelwyr yn ystod gwyliau’r haf, ond mae hyn yn wirioneddol ardderchog, ac rwy’n gobeithio ei fod yn arwydd pellach o hyder yng nghanol ein tref ac yn anogaeth i’r rheiny sy’n masnachu, neu sydd am fasnachu, yn Wrecsam.
“Bydd ffigyrau mwy manwl gennym erbyn diwedd y chwarter a bydd y ffigyrau hynny yn gymorth i ni edrych pa effaith uniongyrchol mae’r lefel uchel yma o ymwelwyr wedi ei gael ar fasnachwyr ac incwm cyffredinol, felly gallwn ddisgwyl canfyddiadau diddorol pan ddaw’r ffigyrau hynny yn ôl.”
Yn dilyn dadansoddiad o berfformiad Stryd Fawr Wrecsam gan Brifysgol Metropolitan Manceinion yn ôl yn 2014, cynigiwyd nifer o argymhellion a’r llynedd, sefydlwyd grŵp llywio newydd canol tref newydd i weithredu’r cynllun 25 pwynt ar gyfer y dref.
Un o’r amcanion hyn oedd edrych ar ffyrdd o gynyddu nifer yr ymwelwyr, drwy fentrau megis gwella golwg y dref ynghyd â datblygu digwyddiadau newydd. Mae’r data o’r peiriant cyfrif electronig newydd a osodwyd ar Stryd yr Hôb wedi bod yn bwydo cyfrifiadau wythnosol i’r tîm Rheoli Canol Tref.
Mae’r busnesau sy’n cymryd rhan ar hyn o bryd yn y prosiect wedi’u lledaenu ar draws canol y dref ac mae eu ffigurau gwerthu (wedi’u rhoi fel canran cynnydd neu leihad) yn cael eu cyflwyno bob dydd Mercher. Mae’r data yn cael eu prosesu ac anfonir adroddiad gwerthiannau i bob busnes yn dangos sut mae eu gwerthiannau wedi bod yn erbyn canol y dref. Hefyd maent yn cael golwg cyffredinol o werthiannau a nifer yr ymwelwyr yn Wrecsam.
Mae’r tîm nawr yn gobeithio gosod peiriannau cyfrif ychwanegol mewn rhannau eraill o’r dref fel y maent yn parhau i gasglu rhagor o wybodaeth i gefnogi mentrau yn y dyfodol, ac yn natblygiad y dref fel lleoliad cystadleuol.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI