Tai’r Cyngor ym Mrymbo fydd y rhai diweddaraf i dderbyn gwaith gwella yn rhan o brosiect moderneiddio mawr.
Mae tai ar Stryt Offa ar hyn o bryd yn cael eu hail-doi ac mae cartrefi ym Mryn-y-Ffynnon yn cael gwaith gwella ar y tu allan fel ffensys, llwybrau a waliau newydd.
Mae’r gwaith yn rhan o brosiect gwelliannau mawr Cyngor Wrecsam i sicrhau bod pob un o’i dai yn cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru.
Hon yw’r safon newydd ar gyfer ansawdd a chyflwr tai cymdeithasol a osodwyd gan Lywodraeth Cymru ac mae’n rhaid i’r holl gartrefi yng Nghymru ei chyrraedd erbyn 2020.
Mae gwaith ail-doi ym Mrymbo’n cael ei wneud gan G Roberts Builders ac mae’r gwelliannau allanol yn cael eu gwneud gan Gelli Civil Engineering.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Bydd cartrefi tenantiaid yn ‘addas ar gyfer y dyfodol’
Dywedodd Aelod Lleol Brymbo, y Cynghorydd Paul Rogers, “Rydw i’n falch iawn o weld bod cam diwethaf y rhaglen i foderneiddio tai bellach wedi cyrraedd Brymbo ac y bydd y tenantiaid yma’n gallu gweld manteision y gwelliannau sy’n cael eu gwneud i’w tai yn fuan.
“Mae ceginau ac ystafelloedd ’molchi newydd eisoes wedi’u gosod mewn tai cyngor yma ac mae llawer o waith y tu allan hefyd wedi’i wneud.
“Mae’n bwysig ein bod ni’n gwneud yn siŵr bod cartrefi ein tenantiaid yn barod at y dyfodol. Bydd gwaith cynnal a chadw hanfodol a gwaith gwella fel ail-doi a gosod llwybrau a ffensys newydd yn helpu i gadw’r eiddo mewn cyflwr da ac fe fyddwn ni’n parhau i weithio’n agos gyda’r contractwyr i sicrhau bod y tenantiaid yn hapus efo’r gwaith sydd wedi’i wneud.”
Trydedd flwyddyn o’r fuddsoddiad mwyaf erioed
Mae Cyngor Wrecsam yn buddsoddi record o £56.4 miliwn ar waith gwella tai yn 2017/18. Dyma’r drydedd flwyddyn yn olynol mae’r record wedi’i thorri. Mae’r buddsoddiad yn cynnwys Grant Atgyweiriadau Mawr o £7.5 miliwn, sy’n cael ei roi gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol i’w cefnogi i gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd David Griffiths, Aelod Arweiniol Tai Cyngor Wrecsam: “Rydyn ni wedi gwneud llawer o gynnydd gyda’n rhaglen gwelliannau tai ac mi ydw i’n falch o weld ein bod ni ar y trywydd iawn i gyrraedd y safon.
“Mae miloedd o gartrefi sy’n eiddo i’r Cyngor ar draws y fwrdeistref sirol bellach wedi derbyn gwaith gwella, gan gynnwys ceginau, ystafelloedd ’molchi a systemau gwres canolog newydd a gwaith arall y tu mewn a’r tu allan. Mae o wedi gwella bywydau llawer o’r tenantiaid ac mae wedi gwahaniaeth i’w weld yn ein cymunedau.
“Mae’r buddsoddiad hwn yn gwneud gwahaniaeth go iawn ac fe fydd hyn yn parhau nes mae pob ardal yn y sir wedi derbyn y gwaith.”
Gallwch gael newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam gyda Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI