Mae staff a Thîm cenedlaethol pêl droed Cymru wedi rhannu ffotograffau sy’n dangos eu cefnogaeth i gais Wrecsam i ddod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2025.
Yn y garfan ddiwethaf lle welir Cymru yn curo Awstria 2-1 yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle am le yng Nghwpan y Byd 2022 a hefyd gem gyfeillgar yn erbyn Gweriniaeth Tsiec, bu chwaraewyr a staff yn cymryd amser i dynnu lluniau gyda logo lliwgar cais Wrecsam
Mae’r FAW wedi dweud yn y gorffennol:
“Cafodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru ei hun ei sefydlu yng Ngwesty’r Wynnstay Arms yn Wrecsam yn 1876 – ac mae’r dref wedi bod yn rhan annatod o ddatblygiad a llwyddiant pêl-droed Cymru ers hynny.
Mae clybiau’r dref a’r cyffiniau yn gyforiog o angerdd, hanes a thraddodiad. Gobeithir y bydd y datblygiadau diweddar ar y cae ac oddi arno yn creu dyfodol cyffrous a llwyddiannus ac rydym ni fel cymdeithas am chwarae ein rhan.
Ar ran pob un ohonom yma yng Nghymdeithas Bêl-droed Cymru, rydym yn llwyr gefnogi eich cais, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda chi dros y misoedd nesaf (a thu hwnt) i gynllunio nifer o ddigwyddiadau a chyfleoedd i sicrhau hynny. Wrecsam yn cael ei henwi’n Ddinas Diwylliant y DU 2025.”
Fedrwch ddarganfod mwy o wybodaeth am ein cais wrth fynd at wrecsam2025.com neu ddilyn #nod #Wrecsam2025 ar gyfryngau cymdeithasol