Megis dechrau mae’r flwyddyn newydd, ond mae eisoes gennym newyddion gwych o ganolfan marchnadoedd, cymunedol a’r celfyddydau newydd Wrecsam!
Mae’n bleser gennym gyhoeddi y byddwn yn croesawu arddangosfa helaeth a lliwgar gan un o artistiaid cyfoes enwocaf Prydain ym mis Chwefror.
Mae Grayson Perry yn adnabyddus am ei gelf ceramig, lle mae ffurfiau addurnol traddodiadol yn datgelu naratifau mwy cymhleth a datganiadau gwleidyddol dadleuol.
Yn 2003 enillodd wobr gelf amlycaf Prydain, Gwobr Turner. Yn fwy diweddar, mae wedi cyrraedd cynulleidfa hyd yn oed yn ehangach drwy gyfres o raglenni teledu gan
gynnwys rhaglenni dogfen Channel 4, Divided Britain, Rites of Passage a Who Are You. Mae hefyd wedi ymddangos fel gwestai ar sawl rhaglen deledu, o Have I Got News For You i Question Time.
Cyflwyno Julie Cope
Teitl yr arddangosfa a fydd i’w gweld yn Nhŷ Pawb yw Julie Cope’s Grand Tour: The Story of a Life by Grayson Perry.
Mae’n arddangosfa deithiol gan y Cyngor Crefftau, a gyflwynwyd am y tro cyntaf yn Oriel Saatchi yn Llundain ym mis Chwefror 2017.
Cymeriad ffuglennol a grëwyd gan Grayson Perry yw Julie Cope – dynes gyffredin o Essex y mae’n adrodd ei hanes drwy ddau dapestri graddfa fawr a baled estynedig a gyflwynir yn yr arddangosfa.
Mae’r ddau dapestri yn darlunio elfennau allweddol taith yr arwres o’i geni yn ystod llifogydd Canvey Island ym 1953 hyd at ei marwolaeth annhymig mewn damwain drasig ar stryd yn Colchester.
Mae’r ddau dapestri sy’n cynnig cyfoeth o fanylion diwylliannol a phensaernïol, yn cynnwys hanes cymdeithasol Essex a Phrydain fodern y gall pawb ymwneud ag o.
Dangosir y ddau dapestri wrth ochr gosodiad graffeg, a recordiad sain a gomisiynwyd yn arbennig o Faled Julie Cope, naratif 3000 o eiriau a ysgrifennwyd ac a ddarllenir gan Perry ei hun sy’n amlinellu gobeithion ac ofnau Julie ar ei thaith drwy fywyd.
Mae’r gweithiau celf hyn yn cynrychioli, yng ngeiriau Perry, ‘the trials, tribulations, celebrations and mistakes of an average life’.
Yn hanesyddol, cynigiai tapestrïau graddfa fawr insiwleiddiad i adeiladau domestig crand; mae Perry wedi cyfosod ei gysylltiad â statws, cyfoeth a threftadaeth gydag ystyriaethau cyfoes ynghylch dosbarth cymdeithasol, uchelgais cymdeithasol a chwaeth.
Bydd Canllaw Ymwelwyr Ifanc, taflen ddysgu gyda gweithgareddau i deuluoedd ac ap rhyngweithiol i archwilio’r tapestrïau ar gael fel rhan o’r arddangosfa.
Arddangosfa liwgar a chwareus
Dywedodd cyfarwyddwr creadigol Tŷ Pawb, Jo Marsh: “Rydym wrth ein boddau i allu dod â’r arddangosfa hon i Wrecsam. Mae’n lliwgar ac yn chwareus ac yn cynnwys themâu a thestunau ynghylch hanes a chymdeithas sy’n berthnasol i bob un ohonom, a’r gobaith yw y bydd yn ysbrydoli trafodaeth ddiddorol iawn.
“Mae’n arddangosfa hygyrch iawn a fydd yn apelio i gynulleidfaoedd o bob oed, yn arbennig teuluoedd ac unrhyw un sy’n llai cyfarwydd ag ymweld ag orielau. Byddwn yn trefnu amryw o weithgareddau yn gysylltiedig â’r arddangosfa a bydd ein staff wrth law i helpu pawb i fwynhau’r gwaith gymaint ag y gallant.”
Celf o safon ryngwladol ar ein stepen drws
Dywedodd y Cyng. Hugh Jones, Aelod Arweiniol Pobl, Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Dyma gam anferth arall ymlaen wrth helpu gosod Tŷ Pawb a Wrecsam ar y map fel cyrchfan sefydledig ar gyfer celfyddydau a diwylliant.
“Er nad yw wedi bod ar agor ers blwyddyn gyfan, rydym eisoes wedi cael adolygiadau ffafriol iawn mewn papurau newydd cenedlaethol, wedi derbyn enwebiadau am wobrau rhyngwladol, wedi cynnal trafodaeth radio genedlaethol ar y BBC ac wedi cynnal amryw o arddangosfeydd, gwyliau a digwyddiadau cymunedol llwyddiannus.
“Mae’n wych y gall pobl yn Wrecsam rŵan gael mynediad at arddangosfa gelf deithiol genedlaethol o’r safon hon ar eu stepen drws, a gallwn fod yn hynod falch fod bellach gennym leoliad sy’n gallu dangos celf byd enwog o’r math hwn ochr yn ochr â gweithiau o sin gelf ffyniannus Wrecsam ei hun.”
Bydd Julie Cope’s Grand Tour: The Story of a Life gan Grayson Perry i’w gweld yn Tŷ Pawb o 22 Chwefror – Ebrill 22.
Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb
YMGEISIWCH NAWR