Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Rydym wedi ail-greu golau sinema’r Hippodrome… ac mae’n anhygoel!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Rydym wedi ail-greu golau sinema’r Hippodrome… ac mae’n anhygoel!
Busnes ac addysgFideoPobl a lle

Rydym wedi ail-greu golau sinema’r Hippodrome… ac mae’n anhygoel!

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 18, 2019 12:51 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
RHANNU

Efallai eich bod yn cofio nôl i 2017, roeddem wedi gosod golau a oedd unwaith yn ymgartrefu yn yr hen sinema’r Hippodrome yn Arcêd y De Tŷ Pawb – ac mae wedi derbyn llawer o ganmoliaeth yn ei gartref newydd.

Yn ogystal ag addurno un o’r mynedfeydd i Tŷ Pawb, mae golau’r Hippodrome wedi ysbrydoli gwaith celf newydd a luniwyd gan dîm o artistiaid sy’n gweithio yn y cyfleuster.

Ac mae’r gwaith hwnnw nawr ar werth – gan olygu y gallwch ddod ag atgof yr hen Hippodrome i’ch cartref!

YMGEISIO AM LE MEITHRIN AR GYFER MEDI 2019

Lluniwyd y cysgod lamp fel rhan o’r Prosiect ‘Designer Maker’ – a ddaeth Tŷ Pawb at ei gilydd gyda’r dylunydd Tim Denton a chyfranogwyr rhaglen gyflogadwyedd mentora cymheiriaid a noddir gan yr UE, Cyfle Cymru, ar gyfer pobl gyda phrofiad o gamddefnyddio sylweddau a chyflyrau iechyd meddwl, a gynhelir gan yr elusen adsefydlu ac adferiad CAIS. Cefnogwyd y prosiect hefyd gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, Cyngor Celfyddydau Cymu a Gwasanaeth Di-Waith Cymru Iach ar Waith.

Dyluniwyd y cysgod lamp gan Tim, gydag ysbrydoliaeth ffurf Art Deco golau’r Hippodrome, a’i gyfuno gyda llinellau clir dyluniad modern, Scandinafaidd.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae’r prosiect hwn yn esiampl wych o’r gwaith mae Tŷ Pawb yn gallu ei greu wrth gydweithio gyda sefydliadau eraill, ac rydym yn ddiolchgar iawn i CAIS a Tim Denton am yr holl ymdrechion anhygoel a ddangoswyd drwy gydol prosiect Designer Maker.

“Mae’r prosiect Designer Maker yn cwmpasu popeth mae Tŷ Pawb yn ei olygu – gan gynnwys manteision cymdeithasol y celfyddydau, dysgu sgiliau newydd a darparu cefnogaeth i’r rheiny sydd ei angen.

“Mae ganddo gyswllt cryf gyda hanes Wrecsam, o wybod y cyswllt gweledol iawn gyda’r hen Hippodrome a’r dylanwad a gafodd dyluniad y golau ar y cysgod lamp newydd a gynhyrchwyd gan y prosiect Designer Maker.”

Dywedodd mentor cymheiriaid Cyfle Cymru, George James: “Roedd cyfranogwyr ein prosiect wrth eu bodd yn cymryd rhan yn y cynllun gwych, ymarferol hwn, ynghyd â’r tîm yn Tŷ Pawb.

“Roeddent yn gallu dysgu sgiliau newydd, darganfod rhagor o wybodaeth am dreftadaeth Wrecsam a dangos i bobl sy’n gwella eu bod yn gwneud gwir gyfraniad i’w cymunedau – ac roeddent wedi gwirioni o weld eu gwaith ar werth yn Siop//Shop dros y Nadolig!”

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ysgol meithrin yn 2019 yw Chwefror 22

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.wrexham.gov.uk/welsh/education_w/admissions_nursery.htm”] YMGEISIWCH NAWR [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Ydych chi wedi darllen holl lyfrau eich hoff awdur...yna dyma beth i’w wneud nesaf! Ydych chi wedi darllen holl lyfrau eich hoff awdur…yna dyma beth i’w wneud nesaf!
Erthygl nesaf Mwy o gelf o'r radd flaenaf ar y ffordd i Tŷ Pawb Mwy o gelf o’r radd flaenaf ar y ffordd i Tŷ Pawb

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Sam Gardner
DigwyddiadauArallBusnes ac addysg

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 22, 2026
Wrecsam 2029
Pobl a lle

Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU

Hydref 22, 2026
Mayor attending the Taste of Nigeria Festival
Pobl a lleArall

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref

Hydref 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English