Mae’r bwriad i ymgynghori ar gynlluniau i gynyddu niferoedd disgyblion Ysgol Bro Alun wedi derbyn cymeradwyaeth gan ein Bwrdd Gweithredol.
Bydd ymgynghoriad yn dechrau’n fuan a fydd yn gofyn am farn ar y bwriad o gynyddu nifer disgyblion Bro Alun o 210 disgybl a 30 meithrin i 315 disgybl a 45 meithrin
Bydd y cynnydd yn ddibynnol ar gais llwyddiannus i Llywodraeth Cymru gefnogi’r estyniad cyfalaf o’r adeilad ac adnoddau’r safle.
CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .
Y rheswm dros y cynlluniau hyn yw oherwydd y galw parhaus am lefydd cyfrwng Cymraeg o fewn Wrecsam, ac er ein bod yn cyrraedd y galw presennol, mae disgwyl cynnydd pellach.
Mae hyn hefyd yn cyd-fynd â chynllun Llywodraeth Cymru i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Caiff canlyniadau’r ymgynghoriad eu cyhoeddi yn y dyfodol agos a byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw ddatblygiadau.
Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb
DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB