Rydym yn parhau gyda’n gwaith atgyweirio cyffredinol a gwaith amgylcheddol ar rannau o’n rhwydwaith ffordd ddeuol a chaiff preswylwyr a defnyddwyr ffordd yn yr ardaloedd a effeithir eu cynghori y bydd yna amhariad tra bydd y gwaith yn cael ei wneud.
I alluogi’r gwaith i gael ei gynnal yn ddiogel fe fydd yna lonydd yn cael eu cau ar y ffordd.
Bydd yr holl waith yn cael ei wneud ym mis Awst.
Awst 2 – Cyffordd 3 Cyfnewidfa Croesfoel i Gyffordd 2 Cyfnewidfa Johnstown – Lôn 1 (gan gynnwys Cyffordd 3 y ffordd ymuno tua’r de / Cyffordd 3 y ffordd ymadael tua’r gogledd / Cyffordd 2 y ffordd ymadael tua’r de / Cyffordd 2 y ffordd ymuno tua’r gogledd – wedi eu cau yn llawn).
Awst 3 – Cyffordd 2 Cyfnewidfa Johnstown i Gyffordd 1 Cyfnewidfa Rhiwabon – Lôn 1 (gan gynnwys Cyffordd 2 y ffordd ymuno tua’r de / Cyffordd 2 y ffordd ymadael tua’r gogledd / Cyffordd 1 y ffordd ymadael tua’r de, Lôn 1 yr A539 a Chyffordd 1 y ffordd ymuno tua’r gogledd – wedi eu cau yn llawn).
Awst 4 – Cyffordd 1 Cyfnewidfa Rhiwabon i Gylchfan Halton – wedi cau yn llawn i’r Gogledd a’r De (gan gynnwys Cyffordd 1 ffordd ymuno tua’r de / Cyffordd 1 ffordd ymadael tua’r gogledd).
Awst 5 – Cylchfan Halton i Gylchfan Gledrid – i’r Gogledd a’r De (wedi cau yn llawn).
Awst 6 – Cyffordd 3 Cyfnewidfa Croesfoel i Gyffordd 1 Cyfnewidfa Rhiwabon Lôn 2n.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, “Yn ystod yr haf rydym yn dod o dan bwysau mawr i gadw ymyl y ffyrdd a’r cylchfannau yn glir ond mae’n rhaid i ni gofio am werth ecolegol ymyl y ffyrdd a phob cylchfan. Dyma pam mai dim ond pan rydym yn sicr fod y bywyd gwyllt wedi cael y budd llawn o’r twf tymhorol y byddwn yn eu torri.
“Fe fydd y gwaith yn amharu ychydig ar yrwyr ac rydym yn gofyn i yrwyr neilltuo mwy o amser ar gyfer eu taith o ganlyniad i hyn.”
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN