Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Clos Nant Silyn yn nodi dychweliad i adeiladu tai Cyngor yn Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - 26-27 Awst
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Fideo > Clos Nant Silyn yn nodi dychweliad i adeiladu tai Cyngor yn Wrecsam
FideoY cyngor

Clos Nant Silyn yn nodi dychweliad i adeiladu tai Cyngor yn Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 20, 2021 2:21 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
RHANNU

Yn ddiweddar rydym ni wedi cwblhau adeiladu ein datblygiad cyntaf o dai cyngor ers 1991.

Wedi saib o 30 mlynedd roeddem yn gallu dechrau adeiladu gyda chyllid o’r Cyfrif Refeniw Tai a Grant Tai Fforddiadwy gan Lywodraeth Cymru.

Mae 14 eiddo wedi eu hadeiladu ar gyn safle cartref gofal Nant Silyn.

Mae’r eiddo yn cynnwys 8 x fflat ag 1 ystafell wely, 4 x tŷ â 2 ystafell wely, 1 x byngalo wedi ei addasu â 2 ystafell wely ac 1 x byngalo ar gyfer unigolyn oedrannus ag 1 ystafell wely.

Trefnwch eich apwyntiad brechlyn Covid-19 ar-lein.

Mae’r eiddo eisoes wedi ei ddyrannu i denantiaid, a rhai wedi symud i mewn yn barod.

Mae’r cartrefi yn fodern ac yn cynnwys y cyfarpar ddiweddara, gyda band eang Ffibr ar gael i’r tenantiaid gysylltu iddo. Mae’r tai a byngalos newydd hefyd yn cynnwys paneli solar a storfa batri er mwyn cefnogi lleihau costau ynni.

Mae byngalo wedi ei addasu â 2 ystafell wely wedi ei greu ar gyfer gofynion tenantiaid penodol a fydd yn darparu ystafell ymolchi â chawod gyda mynediad lefel isel, a chegin sy’n codi a gostwng.

Clos Nant Silyn yn nodi dychweliad i adeiladu tai Cyngor yn Wrecsam

Mae’r datblygiad hwn o 14 o gartrefi ym Mhont Wen yn nodi dechrau ein prosiectau adeiladu, gyda safle ym Mhlas Madoc eisoes wedi dechrau.

Mae gennym ddau brosiect arall ar y gweill yn cynnwys 6 fflat ag 1 ystafell wely yn Johnstown, 4 fflat 1 ystafell wely y tu ôl i Tir Y Capel yn LLay. Mae hwn yn rhan o’n rhaglen ailwampio ein tai gwarchod, ar y cyd gydag edrych am waith i ddatblygu yn y dyfodol.

Clos Nant Silyn yn nodi dychweliad i adeiladu tai Cyngor yn Wrecsam

Dywedodd Y Cynghorydd David Griffiths, Aelod Arweiniol Tai: “Rwy’n fwy na bodlon â’r ansawdd. Mae’n gosod y safon ar gyfer popeth arall. Mae Wrecsam wedi ymgymryd á’r her, a’r bobl sydd wedi elwa yw pobl yn y gymuned.”

Dywedodd arweinydd Cyngor Wrecsam, y Cyng. Mark Pritchard: “Fel arweinydd Cyngor Wrecsam dwi wrth fy modd wrth weld datblygiad Clos Nant Silyn yn dechrau ein rhaglen o adeiladu cartrefi, ochr yn ochr i’n hymrwymiad parhaus i ailwampio ein tai hŷn.Yn gynharach eleni, cyfarfu Bwrdd Gweithredol y Cyngor a chymeradwyo Cynllun Busnes Y Cyfrif Refeniw Tai a fydd yn caniatáu i Gyngor Wrecsam fuddsoddi £58.9 miliwn mewn stoc tai Cyngor o dros 11,000 o eiddo drwy gydol blwyddyn ariannol 2021-22.2

Dywedodd Y Cynghorydd David Bithell, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol I Oedolion:  “Mae’n wych gweld y prosiect yma yn cael ei wireddu. Dim ond rhan o’n hymrwymiad parhaus yw hyn, i ddarparu cartrefi sy’n cael eu rheoli yn dda, yn weddus ac yn gynnes gyda chyfleusterau modern, sy’n darparu cartrefi gydol oes i’n tenantiaid.”

Dywedodd Miss J, preswylydd a fydd yn symud i fyw i’r byngalo sydd wedi ei addasu a’i ddylunio yn arbennig ar gyfer ei hanghenion: “Mae’n anhygoel, rwyf wedi gwylio’r byngalo yn cael ei adeiladu o’r diwrnod cyntaf. Mae pawb wedi bod yn wych gyda mi, rwyf wedi fy nghynnwys o’r dechrau, felly rwy’n gwybod y bydd yn addas ar gyfer fy anghenion corfforol. Mae hyn yn newid bywyd i mi, mae gennyf fab 4 oed, a golygai y gallaf fod yn fwy annibynnol gydag ef, alla i ddim disgwyl.”

Dywedodd Miss G, preswylydd sydd yn symud i gartref llai: “Alla i ddim disgwyl i symud i mewn i fy nghartref newydd. Rwyf wedi bod yn byw mewn tŷ â 3 ystafell wely sydd rhy fawr i mi ers blynyddoedd a thalu treth ystafelloedd gwely. Rwyf yn edrych ymlaen, mae am wneud gwahaniaeth mawr i mi.”

Dywedodd Cynghorydd Ward Smithfield, Adrienne Jeorrett: “Rwyf wedi rhyfeddu â’r ansawdd, rwyf mor falch. Mae gan bawb yr hawl i gartref addas. Mae’r holl beth yn wych, ac yn digwydd yma nawr, ardderchog!”

Mae ein rhaglen ailwampio tai gwarchod hefyd wedi dechrau, a chyda buddsoddiad sylweddol i nifer o gynlluniau dros y blynyddoedd nesaf, mae gwaith wedi dechrau yn Nhir-y-Capel yn Llai a Llys y Mynydd yn Rhos.

Isod. Lluniau o Nant Silyn wedi ei chwblhau, ac wrth i waeth mynd ymlaen

Clos Nant Silyn yn nodi dychweliad i adeiladu tai Cyngor yn Wrecsam Clos Nant Silyn yn nodi dychweliad i adeiladu tai Cyngor yn Wrecsam Clos Nant Silyn yn nodi dychweliad i adeiladu tai Cyngor yn Wrecsam Clos Nant Silyn yn nodi dychweliad i adeiladu tai Cyngor yn Wrecsam Clos Nant Silyn yn nodi dychweliad i adeiladu tai Cyngor yn Wrecsam Clos Nant Silyn yn nodi dychweliad i adeiladu tai Cyngor yn Wrecsam Clos Nant Silyn yn nodi dychweliad i adeiladu tai Cyngor yn Wrecsam Clos Nant Silyn yn nodi dychweliad i adeiladu tai Cyngor yn Wrecsam

Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://bipbc.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/brechiad-covid-19-trefnu-apwyntiad-ar-lein/”]TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Newbridge Y B5605 yn Newbridge – galw am arian ar frys i drwsio ffordd gyswllt hanfodol
Erthygl nesaf A5 Mwy o Waith Amgylcheddol ar Ffordd Ddeuol i gael ei wneud ym mis Awst

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor
Awst 25, 2026
Mayor of Wrexham attending Dolywern summer fair
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Awst
Pobl a lle
Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Awst 25, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd
Arall Pobl a lle
Awst 24, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst
Y cyngor

Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst

Awst 24, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor

Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan

Awst 18, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English