Efallai mai dyma’r gystadleuaeth i chi!
Mae gwasanaeth Llyfrgell Wrecsam ar y cyd â Chymdeithas Owain Cyfeiliog wedi lansio Sialens Darllen Llyfrau Cymraeg newydd ar gyfer 2018.
Y sialens yw darllen pum llyfr Cymraeg rhwng mis Hydref a diwedd mis Rhagfyr eleni.
GALL Y DDAU GAM SYML YMA TROI CHI MEWN I ARCHARWR AILGYLCHU!
Gall y rhain fod yn lyfrau o unrhyw fath ac mae’r sialens yn agored i Ddysgwyr Cymraeg.
I gofrestru, bydd angen i chi lenwi cerdyn Cofnod Darllen sydd ar gael o’ch llyfrgell leol. Bydd bob cerdyn sydd wedi’u llenwi yn cael eu rhoi mewn het a bydd un enillydd lwcus yn ennill gwobr o £80 mewn arian parod (diolch i gyfraniad Cymdeithas Owain Cyfeiliog, y Gymdeithas Llyfrgell Gymraeg sy’n cyfarfod yn Llyfrgell Wrecsam).
Caiff yr enillydd ei gyhoeddi yng nghyfarfod mis Ionawr y gymdeithas.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Llyfrgelloedd Wrecsam neu i ymaelodi â Llyfrgelloedd Wrecsam, ymwelwch â’r wefan.
Sut i fod yn archarwr ailgylchu…mewn dau gam syml.
DERBYNIWCH AWGRYMIADAU AILGYLCHU