Roedd gan John Brinkley, myfyriwr Glyndŵr, freuddwyd o ddod yn awdur/darlunydd llyfr comics a gyhoeddwyd. A diolch i BCM Boarder Collectibles yn Tŷ Pawb mae ei freuddwyd wedi dod yn realiti.
Fe fu’n gweithio gyda Tom Griffiths, ffrind a chyn weithiwr, ac mae’r ddau wedi bod yn ysgrifennu a darlunio eu cyfres llyfr comics eu hunain yn eu hamser hamdden ers rhai blynyddoedd.
Fe benderfynodd John, myfyriwr blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Glyndŵr sy’n astudio darlunio, fentro ac aeth i ymweld â BCM Boarder Collectables yn Tŷ Pawb yn ystod Wythnos y Glas eleni. Ar ôl sgwrsio cytunodd y siop i stocio’r comic.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Mae hyn yn nodi’r tro cyntaf y bydd eu comic ar gael i’w brynu fel copi caled mewn siop.
Mae’r ddau wedi ysgrifennu 20 rhifyn o’r comic, ‘The Ripple Effect’. Mae dau rifyn ar gael ar hyn o bryd fel copïau caled gyda rhifynnau dilynol ar gael ar eu gwefan ar ffurf ddigidol i’w lawrlwytho. Maent yn gobeithio gallu ehangu a chael mwy o rifynnau mewn print yn y dyfodol agos.
Cyfres gomic yw ‘The Ripple Effect’ sy’n dilyn bywyd ac anturiaethau Connor Cutler.
Os hoffech weld y comic, ewch i ymweld â BCM Boarder Collectables yn Tŷ Pawb.
https://www.patreon.com/therippleeffect
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN