Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Myfyrwyr Wrecsam yn ennill cystadleuaeth newyddiaduraeth amgylcheddol fyd-eang
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Myfyrwyr Wrecsam yn ennill cystadleuaeth newyddiaduraeth amgylcheddol fyd-eang
Busnes ac addysg

Myfyrwyr Wrecsam yn ennill cystadleuaeth newyddiaduraeth amgylcheddol fyd-eang

Diweddarwyd diwethaf: Medi 29, 2020 4:33 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Ysgol Clywedog’s Eco-Action Taskforce Group
RHANNU

Mae myfyrwyr Ysgol Clywedog yn dathlu ar ôl ennill prif wobr categori Cydweithio Rhyngwladol yn rownd derfynol cystadleuaeth newyddiaduraeth amgylcheddol fyd-eang.

Cynnwys
  • “Buddugoliaeth”
  • “Talent newyddiadura gwych”
  • “fideo pwerus”

Gweithiodd Grŵp Tasglu Gweithredu-Eco Ysgol Clywedog (sy’n cynnwys 25 o fyfyrwyr blynyddoedd 7 i 11) gydag ysgol bartner, Colegio Enriquez Soler yn Melilla, Sbaen i greu fideo ar gyfer categori Cydweithio Rhyngwladol cystadleuaeth Newyddiadurwr Ifanc yr Amgylchedd.

Yn gynharach eleni fe gawsoch chi wybod am eu fideo tri munud gwych o’r enw ‘Plastic Waste – An Intercontinental Problem’, felly mae’n braf clywed eu bod wedi mynd yn eu blaenau i gyrraedd y brig.

Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.

Mae’r fideo yn amlygu effaith niweidiol a hirdymor plastigion untro ar yr amgylchedd.

Roedd Dr Christian Dunn o Brifysgol Bangor, un o arbenigwyr blaenllaw’r wlad mewn plastigion micro, a Helen Tandy, Cadeirydd Cyfeillion y Ddaear Caer a’r Ardal, wedi dangos eu cefnogaeth i’r fideo.

Cafodd rhestr fer y gystadleuaeth ei hasesu ar y we gan feirniaid rhyngwladol a oedd yn cynnwys arbenigwyr newyddiaduraeth amgylcheddol, cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol ac addysg datblygu cynaliadwy.

“Buddugoliaeth”

Meddai Nicholas Brown, Pennaeth Daearyddiaeth Ysgol Clywedog: “Ar ôl cyrraedd y brig yn y gystadleuaeth genedlaethol ac ennill lle yn y rownd derfynol yn gynharach fis yma, aeth y myfyrwyr benben â 182 o ymgeiswyr eraill o 31 gwlad. Roedd hynny’n dipyn o gamp ynddo’i hun ac roedd ennill yn fuddugoliaeth enfawr iddyn nhw.

“Ar ddechrau’r prosiect edrychodd y myfyrwyr ar enillydd y llynedd ac roedden nhw’n ansicr o ran eu gallu i wneud rhywbeth tebyg neu well. Ond bu iddyn nhw wneud hynny, a llwyddo!

“Maen nhw wedi cystadlu ar lwyfan y byd yn erbyn myfyrwyr o bob cefndir, ac mae hynny wedi bod yn hwb mawr i’w hyder. Heb amheuaeth, bydd y profiad yma, a gweithio gyda myfyrwyr tramor, o fantais iddyn nhw yn y dyfodol.

“Rydw i’n edrych ymlaen at ailgynnull y grŵp a chynllunio ar gyfer cystadleuaeth y flwyddyn nesaf. Rydym ni wedi datblygu perthynas dda gyda’r myfyrwyr yn Sbaen ac maen nhw’n awyddus i barhau i weithio efo ni. Felly rydw i’n edrych ymlaen at yr hyn y gallwn ni gyflawni nesaf.”

“Talent newyddiadura gwych”

Meddai’r Cyng. Phil Wynn, Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Clywedog ac Aelod Arweiniol Addysg: “Mae’n wych bod Grŵp Tasglu Gweithredu-Eco Ysgol Clywedog a’u hysgol bartner, Colegio Enriquez Soler, wedi cyrraedd y brig yn y categori Cydweithio Rhyngwladol. Ond, ar ôl gweld safon y fideo, dydi hynny fawr o syndod. Dangosodd y myfyrwyr dalent newyddiadura a chreadigrwydd gwych i ddatblygu darn o waith rhagorol i hyrwyddo neges bwysig iawn. Roedd yn waith tîm ardderchog, ac maen nhw’n llawn haeddu’r wobr hon. Da iawn bawb.”

“fideo pwerus”

Meddai’r Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Llongyfarchiadau mawr i bawb a oedd yn rhan o’r fideo pwerus yma. Mae gormod o blastig yn broblem fyd-eang sy’n niweidio’r amgylchedd ac yn tagu ein moroedd, a dw i’n falch bod y myfyrwyr wedi dewis amlygu’r broblem yma. Mae’r genhedlaeth iau wedi cymryd y cyfrifoldeb am addysgu pobl am y materion amgylcheddol pwysig yma, ac maen nhw’n helpu ymdrechion Wrecsam i fod yn rheng flaen y frwydr ailgylchu yng Nghymru.”

Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.covid19.nhs.uk/”]Lawrlwythwch yr ap GIG[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol A483 Rossett to Gresford Gwaith Ffordd ar yr A525 Ffordd Rhuthun, rhwng Lôn y Tyddyn a Ffordd y Bers
Erthygl nesaf Wrecsam Cyfyngiadau ychwanegol i helpu yn y frwydr yn erbyn ‘ail don’ yng ngogledd Cymru

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

the longest yarn
Dilynwch y pabïau i ‘The Longest Yarn’
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 29, 2026
Mae rhagolygon gyrfa newydd ychydig o gliciau i ffwrdd! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf...
Mae rhagolygon gyrfa newydd ychydig o gliciau i ffwrdd! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Busnes ac addysg
Medi 29, 2026
Baby Brave i ddathlu albwm cyntaf arloesol gyda pharti lansio yn Wrecsam
Baby Brave i ddathlu albwm cyntaf arloesol gyda pharti lansio yn Wrecsam
Pobl a lle
Medi 29, 2026
Dal dwylo
Rydyn ni’n chwilio am is-gadeirydd ar gyfer ein panel maethu – allech chi fod yr un?
Arall Pobl a lle
Medi 29, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cystadleuaeth Dylunio Cymeriad
Busnes ac addysgDigwyddiadauPobl a lle

Lansio cystadleuaeth gelf i blant wrth i ddathliadau’r Flwyddyn o Ryfeddod barhau

Medi 29, 2026
Ysgol I D Hooson
Busnes ac addysg

Gwaith yn Ysgol I D Hooson yn dechrau’n swyddogol

Medi 25, 2026
All Saints School Library Opening
Busnes ac addysgPobl a lle

Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd

Medi 23, 2026
Gallai'r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf...
Busnes ac addysg

Gallai’r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…

Medi 18, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English