Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Safle Mynwent Wrecsam ymhlith y mannau gwyrdd sydd wedi ennill Gwobr y Faner Werdd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Safle Mynwent Wrecsam ymhlith y mannau gwyrdd sydd wedi ennill Gwobr y Faner Werdd
Pobl a lleY cyngor

Safle Mynwent Wrecsam ymhlith y mannau gwyrdd sydd wedi ennill Gwobr y Faner Werdd

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 16, 2018 10:36 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Safle Mynwent Wrecsam ymhlith y mannau gwyrdd sydd wedi ennill Gwobr y Faner Werdd
RHANNU

Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi datgelu enillwyr Gwobr y Faner Werdd eleni – y marc rhyngwladol i barc neu fan gwyrdd o safon.

Cynnwys
  • “Mae’n ganmoliaeth ardderchog”
  • Cadwch Gymru’n Daclus:

Mae 201 o barciau a mannau gwyrdd, y nifer uchaf erioed, sy’n cynnwys prifysgolion, mynwentydd, coetiroedd a rhandiroedd ar draws Cymru wedi cyrraedd y safonau uchel y mae angen eu cyrraedd i dderbyn Gwobr y Faner Werdd a Gwobr Gymunedol y Faner Werdd.

Mae Wrecsam wedi derbyn gwobr y faner werdd am Fynwent Wrecsam. Dyma’r flwyddyn gyntaf i’r wobr gael ei rhoi i fynwent ac mae’n nodi gwaith caled y tîm gyda chyllid o Gronfa Dreftadaeth y Loteri i drawsnewid cyfleusterau’r fynwent ac annog y gymuned i gymryd rhan yn y gwaith ar y safle.

WEDI GWELD TIPIO ANGHYFREITHLON? GADEWCH I NI WYBOD YN SYTH AC YN HAWDD YMA

Bydd y baneri gwyrdd yn chwifio ym Mynwent Wrecsam, Parc Acton, Parc Gwledig Dyfroedd Alun, y Parciau, Parc y Ponciau a Pharc Gwledig Tŷ Mawr i gydnabod eu cyfleusterau arbennig a’u hymrwymiad i ddarparu mannau gwyrdd o safon ardderchog.

“Mae’n ganmoliaeth ardderchog”

Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydw i’n croesawu’r newyddion bod gan Wrecsam statws y faner werdd unwaith eto, a hoffwn ddiolch i bawb fu’n gweithio i sicrhau bod ein parciau’n dal i ddenu’r cyhoedd.

“Llongyfarchiadau i’r holl safleoedd sydd wedi ennill Gwobr Gymunedol y Faner Werdd hefyd – mae’n ganmoliaeth ardderchog.

“Rydw i’n benodol falch bod Mynwent Wrecsam wedi ennill ei Baner Werdd gyntaf. Mae wir yn gyflawniad gwych gan staff a Grŵp Cyfeillion y fynwent.”

Cadwch Gymru’n Daclus:

Mae rhaglen Gwobr y Faner Werdd yn cael ei darparu yng Nghymru gan yr elusen amgylcheddol, Cadwch Gymru’n Daclus, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Mae’n cael ei beirniadu gan arbenigwyr mannau gwyrdd sy’n gwirfoddoli eu hamser i ymweld â safleoedd yr ymgeiswyr a’u hasesu yn ôl wyth maen prawf caeth, sy’n cynnwys safonau garddwriaethol, glendid, rheolaeth amgylcheddol a rhan y gymuned yn y gwaith.

Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd Gwobr y Faner Werdd, Cadwch Gymru’n Daclus: “Rydyn ni mor falch o fod yn dathlu blwyddyn arall o dorri’r record am Wobrau Baneri Gwyrdd yng Nghymru. Mae’r 201 o faneri’n brawf o ymroddiad a brwdfrydedd y staff a gwirfoddolwyr ar draws y wlad sy’n gweithio’n ddi-flino i gynnal safonau Gwobr y Faner Werdd.

“Byddwn yn annog pawb i fynd allan i’r awyr agored yr haf hwn i fwynhau’r parciau a’r mannau gwyrdd gwych sydd gennym ni.”

Y safleoedd eraill yn y fwrdeistref sirol sydd wedi derbyn Gwobr Gymunedol y Faner Werdd, sy’n gwobrwyo mannau cyhoeddus yng ngofal sefydliadau fel eglwysi, ysgolion, grwpiau cymunedol ac eraill, yw::

  • Plas Pentwyn, Coedpoeth
  • Maes y Pant, Chwarel Merffordd
  • Eglwys y Santes Fair, y Waun,

Mae rhestr lawn o enillwyr y wobr i’w gweld ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus

Gallwch chi roi eich parc neu’ch man gwyrdd ar y map drwy gymryd rhan hefyd. Ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus i gael mwy o wybodaeth.

Wedi gweld tipio anghyfreithlon? Gadewch i ni wybod ar-lein

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/community_services/flytipping.htm “] DDWEDWCH WRTHYM AM DIPIO ANGHYFREITHLON AR-LEIN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Gwelliannau i Ganol y Dref – cyfle i weld beth sydd wedi ei gynllunio Gwelliannau i Ganol y Dref – cyfle i weld beth sydd wedi ei gynllunio
Erthygl nesaf Mynd i’r afael â Masnachwyr Twyllodrus Mynd i’r afael â Masnachwyr Twyllodrus

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu
Y cyngor

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu

Hydref 20, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
Ty Pawb and Pittsburgh University
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English