Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mynd i’r afael â’r ‘ddedfryd gudd’
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - 19-20 Awst
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Mynd i’r afael â’r ‘ddedfryd gudd’
ArallPobl a lle

Mynd i’r afael â’r ‘ddedfryd gudd’

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 18, 2018 11:00 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Mynd i’r afael â’r ‘ddedfryd gudd’
RHANNU

Mae Carchar Berwyn wedi agor ac ar waith ac er ein bod ni’n clywed llawer am ddedfrydau’r dynion, mae prosiect yn tynnu sylw at effeithiau carcharu ar blant a theuluoedd- mae’r prosiect hwn wedi’i ariannu gan Fwrdd Cymunedau Mwy Diogel Gogledd Cymru, Carchar Berwyn a Bwrdd Cynllunio Ardal Camddefnyddio Sylweddau Gogledd Cymru.

Mae bod â rhywun annwyl yn y carchar yn creu diniweidrwydd a heriau sy’n aml yn cael eu hanwybyddu ac mae aelodau’r teulu’n aml yn mynd drwy’r hyn sy’n cael ei alw’n ‘ddedfryd gudd’.

WEDI GWELD TIPIO ANGHYFREITHLON? GADEWCH I NI WYBOD YN SYTH AC YN HAWDD YMA

I blant, mae pwysau a newidiadau sylweddol pan mae aelod o’r teulu’n cael ei garcharu, gan gynnwys:

  • Troseddu rhwng cenedlaethau – canfu astudiaeth bwysig bod 65% o fechgyn sydd â thad yn y carchar yn mynd yn eu blaenau i droseddu.
  • Mae carcharu mam yn cael effaith barhaol a dim ond 5% o blant sydd â’u mam yn y carchar sy’n aros yn eu cartrefi eu hunain.
  • Mae mwy o debygolrwydd o fywydau tlawd ac wedi’u niweidio.
  • Mae stigma yn erbyn teuluoedd yn eu cymuned ac mae plant yn fwy unig yn yr ysgol.

Er bod mwy na 200,000 o blant yng Nghymru a Lloegr yn cael eu heffeithio gan hyn, nid oes unrhyw system i nodi pwy yw’r plant hynny felly maent yn aml yn wynebu’r holl beth eu hunain. Gwyddwn fod ymweliadau gan blant i Garchar Berwyn wedi cyrraedd 1,619 ym mis Rhagfyr 2017, yr uchaf hyd yn hyn, pan fo dim ond hanner y carchar yn llawn. Mae nifer o blant a theuluoedd yn ymweld ag aelodau’r teulu mewn Carchardai yn Lloegr, gan fod merched o Ogledd Cymru, er enghraifft, yn tueddu i gael eu hanfon i Garchar Styal, yr ochr arall i faes awyr Manceinion, ac mae troseddwyr ifanc yn cael eu hanfon y tu allan i Ogledd Cymru hefyd.

Mae’r prosiect hwn yn golygu bod y materion yn cael eu codi gyda chyrff ac asiantaethau proffesiynol, gan gynnwys Cyngor Wrecsam, fel y gall cefnogaeth a gwasanaethau wedi’u targedu gael eu darparu i’r grŵp cudd hwn yn ein cymdeithas.

Os ydych angen mwy o wybodaeth ynglŷn â’r prosiect, lawrllwythwch gopi o’r cylchlythyr yma:

Argraffiad Ionawr 2018

Wedi gweld tipio anghyfreithlon? Gadewch i ni wybod ar-lein

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/community_services/flytipping.htm “] DDWEDWCH WRTHYM AM DIPIO ANGHYFREITHLON AR-LEIN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Road works Methiant i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg ar arwyddion ffyrdd
Erthygl nesaf Adtrac youth project wrexham news “Prosiect yn gwneud gwahaniaeth go iawn i bobl ifanc”

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor
Awst 18, 2026
Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 17, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod
Pobl a lle
Awst 17, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Guildhall
Arall

Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw

Awst 14, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam

Awst 12, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr

Awst 13, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English