Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mynd i’r gêm ddydd Sadwrn yma? Rhowch gynnig ar y gwasanaeth Parcio a Theithio newydd ar Ffordd Rhuthun
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Mynd i’r gêm ddydd Sadwrn yma? Rhowch gynnig ar y gwasanaeth Parcio a Theithio newydd ar Ffordd Rhuthun
Pobl a lleArall

Mynd i’r gêm ddydd Sadwrn yma? Rhowch gynnig ar y gwasanaeth Parcio a Theithio newydd ar Ffordd Rhuthun

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 21, 2025 10:48 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Car parking
RHANNU
  • Parcio y tu allan i swyddfeydd Cyngor Wrecsam ar Ffordd Rhuthun, Wrecsam LL13 7TU
  • Bysiau gwennol yn gadael bob 20 munud o 1pm tan 2.40pm.

Os ydych chi’n gyrru i’r gêm Wrecsam v Stockport ddydd Sadwrn yma (22 Mawrth), peidiwch ag anghofio rhoi cynnig ar y gwasanaeth Parcio a Theithio newydd ar Ffordd Rhuthun.

Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Cyngor Wrecsam gynllun i dreialu gwasanaeth Parcio a Theithio newydd ar gyfer gweddill gemau cartref Clwb Pêl-droed Wrecsam y tymor hwn.

Bydd bysiau’n gadael o Ffordd Rhuthun bob 20 munud o 1pm tan 2.40pm, gan ollwng cefnogwyr ar Ffordd yr Wyddgrug ger stadiwm STōK Cae Ras.

Ar ôl y gêm, bydd bysus yn gadael Ffordd Ganolog bob 20 munud o 5pm, ac yna o gyferbyn â’r stadiwm ar Ffordd yr Wyddgrug bob 20 munud o 6pm.

Y nod yw lleihau tagfeydd a chynnig parcio cyfleus i gefnogwyr sy’n teithio mewn car.

Mae’r gwasanaeth bws gwennol yn cael ei ddarparu gan Arriva North West & Wales, ac mae’r cynllun yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru.

Dywedodd Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: “Rwy’n falch iawn o weld y cynllun peilot hwn yn cael ei gynnal yn Wrecsam, a byddwn i’n annog cefnogwyr sy’n teithio mewn car i roi cynnig arno.

“Mae’r torfeydd yn y STōK Cae Ras yn anhygoel, ac wrth i fwy o bobl ymweld â’r stadiwm, mae angen i ni ddod o hyd i ffyrdd o reoli parcio a thagfeydd yn y ddinas.

“Mae diwrnodau gemau yn hynod o bwysig, ac rwy’n falch iawn bod Cyngor Wrecsam a’i bartneriaid yn treialu’r cynllun hwn, a allai gynnig manteision enfawr i gefnogwyr a thrigolion lleol.”

Parcio y tu allan i swyddfeydd Cyngor Wrecsam ar Ffordd Rhuthun, Wrecsam LL13 7TU
Swyddfeydd Cyngor Wrecsam ar Ffordd Rhuthun, Wrecsam LL13 7TU

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Dai a Newid Hinsawdd: “Gyda llwyddiant parhaus Clwb Pêl-droed Wrecsam a nifer y cefnogwyr, sy’n cynyddu’n barhaus, sydd eisiau mynd i gemau cartref, rydym wedi bod yn gweithio’n galed y tu ôl i’r llenni i fynd i’r afael â’r problemau sy’n gysylltiedig â’r galw am barcio ar ddiwrnod gêm.

“Rwy’n falch o gyhoeddi bod Cyngor Wrecsam wedi dod i gytundeb gydag Arriva Gogledd-orllewin Lloegr a Chymru i weithredu gwasanaeth bws gwennol pwrpasol i ategu’r cyfleuster parcio diwrnod gêm presennol sydd ar gael o’n safle Ffordd Rhuthun.

“Gall cefnogwyr elwa o barcio am ddim ar y safle, ac yna byddant yn gallu teithio i’r cae ras ac oddi yno ar wasanaeth bws lleol pwrpasol. £2 fydd pris tocynnau i oedolion, £1.30 i blant a phobl ifanc, a derbynnir tocynnau consesiynol.

“Bydd y treial hwn yn dechrau gyda’r gêm gartref nesaf ddydd Sadwrn, 22 Mawrth pan fydd Stockport County yn ymweld â Chae Ras STōK, a bydd yn rhedeg am weddill y tymor hwn.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Chwilio am waith? Dyma rai o'n swyddi gwag diweddaraf… Chwilio am waith? Dyma rai o’n swyddi gwag diweddaraf…
Erthygl nesaf Dim carreg heb ei throi! Dewch i gwrdd â’r arbenigwyr sy’n gwarchod adeilad amgueddfa Wrecsam Dim carreg heb ei throi! Dewch i gwrdd â’r arbenigwyr sy’n gwarchod adeilad amgueddfa Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…
Busnes ac addysg
Hydref 9, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor
Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngor Digwyddiadau
Hydref 9, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)
Digwyddiadau Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas
Pobl a lle

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas

Hydref 9, 2026
Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 
Pobl a lleDatgarboneiddio Wrecsam

Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 

Hydref 9, 2026
Sam Gardner
Pobl a lleDigwyddiadau

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 8, 2026
Horace outside Wrexham Library
FideoPobl a lleY cyngor

Braw i bawb yn Llyfrgell Wrecsam

Hydref 8, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English