Agorodd tafarn gymunedol leol ei drysau i bawb oedd yn chwilio am fwy o hwyl yr ŵyl.
Cynhaliodd tafarn y Golden Lion, Coedpoeth, sydd â’i brofiad unigryw o siopa, Ffair Nadolig yn ddiweddar. Galwodd y Dirprwy Faer, y Cynghorydd Brian Cameron heibio i ymuno yn y dathliadau Nadoligaidd.
Digonedd o ddewis
Roedd y dafarn yn llawn gyda stondinau yn gwerthu nwyddau a chynnyrch cartref lleol gorau. Roedd yna anrhegion a danteithion i bawb, o deisennau cartref i brintiau o luniau gan rai o drigolion mwyaf talentog yr ardal.
Ymysg y tinsel a’r hwyl, gwerthwyd tocynnau raffl i godi arian ar gyfer achosion gwych megis Alzheimer’s UK ac Apêl y Pabi.
Tynnu peint
Tra’n crwydro’r stondinau a chwrdd â’r masnachwyr lleol a thrigolion rheolaidd y Golden Lion, gwahoddwyd y Dirprwy Faer i roi cynnig ar yrfa dra wahanol i’r hyn mae wedi arfer ag o.
Gan dorchi ei lawes, fe aeth y tu ôl i’r bar i dynnu peint oer a ffres i gwsmer sychedig.
Yn cadw golwg ar ei gynnydd roedd y landlord, Sian Jones a ddywedodd: “Dydi o ddim yn rhy ddrwg fel rhywun newydd, ond mae gennym ni dipyn o ffordd i fynd eto nes y bydd o’n rheolwr!”
Canu a dawnsio Nadoligaidd
Wrth i ymwelwyr â’r ffair gynhesu gyda gwin cynnes, cawsant fwynhau perfformiadau cerddorol. Bu Band Glofa Ifton yn chwarae fersiynau o ffefrynnau traddodiadol a bu Côr Cymunedol y Golden Lion yn canu’r caneuon Nadoligaidd cyfarwydd.
Roedd yr hapusrwydd yn heintus gan helpu pawb i deimlo’n Nadoligaidd.
Dywedodd y Dirprwy Faer: “Mi ges i amser gwych yn ymweld â’r Ffair Nadolig yn y Golden Lion. Yr hyn oedd yn amlwg i mi oedd agosatrwydd y gymuned yn cydweithio.
“Nid yn unig ei bod hi’n braf bod yno ond roedd yna ymdeimlad cymunedol hefyd. Fe hoffwn i ddiolch i bawb am eu gwaith caled ac am ddiwrnod mor arbennig ac am adael i mi ymuno â phawb ohonoch.”