Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Nadolig euraidd yn y Golden Lion
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Nadolig euraidd yn y Golden Lion
Pobl a lle

Nadolig euraidd yn y Golden Lion

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 23, 2021 2:27 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Deputy Mayor, Councillor Brian Cameron meets the staff at the Golden Lion, Coedpoeth
RHANNU

Agorodd tafarn gymunedol leol ei drysau i bawb oedd yn chwilio am fwy o hwyl yr ŵyl.

Cynnwys
  • Digonedd o ddewis
  • Tynnu peint
  • Canu a dawnsio Nadoligaidd

Cynhaliodd tafarn y Golden Lion, Coedpoeth, sydd â’i brofiad unigryw o siopa, Ffair Nadolig yn ddiweddar. Galwodd y Dirprwy Faer, y Cynghorydd Brian Cameron heibio i ymuno yn y dathliadau Nadoligaidd.

Digonedd o ddewis

Roedd y dafarn yn llawn gyda stondinau yn gwerthu nwyddau a chynnyrch cartref lleol gorau. Roedd yna anrhegion a danteithion i bawb, o deisennau cartref i brintiau o luniau gan rai o drigolion mwyaf talentog yr ardal.

Ymysg y tinsel a’r hwyl, gwerthwyd tocynnau raffl i godi arian ar gyfer achosion gwych megis Alzheimer’s UK ac Apêl y Pabi.

Tynnu peint

Tra’n crwydro’r stondinau a chwrdd â’r masnachwyr lleol a thrigolion rheolaidd y Golden Lion, gwahoddwyd y Dirprwy Faer i roi cynnig ar yrfa dra wahanol i’r hyn mae wedi arfer ag o.

Gan dorchi ei lawes, fe aeth y tu ôl i’r bar i dynnu peint oer a ffres i gwsmer sychedig.

Yn cadw golwg ar ei gynnydd roedd y landlord, Sian Jones a ddywedodd: “Dydi o ddim yn rhy ddrwg fel rhywun newydd, ond mae gennym ni dipyn o ffordd i fynd eto nes y bydd o’n rheolwr!”

Canu a dawnsio Nadoligaidd

Wrth i ymwelwyr â’r ffair gynhesu gyda gwin cynnes, cawsant fwynhau perfformiadau cerddorol.  Bu Band Glofa Ifton yn chwarae fersiynau o ffefrynnau traddodiadol a bu Côr Cymunedol y Golden Lion yn canu’r caneuon Nadoligaidd cyfarwydd.

Roedd yr hapusrwydd yn heintus gan helpu pawb i deimlo’n Nadoligaidd.

Dywedodd y Dirprwy Faer: “Mi ges i amser gwych yn ymweld â’r Ffair Nadolig yn y Golden Lion. Yr hyn oedd yn amlwg i mi oedd agosatrwydd y gymuned yn cydweithio.

“Nid yn unig ei bod hi’n braf bod yno ond roedd yna ymdeimlad cymunedol hefyd. Fe hoffwn i ddiolch i bawb am eu gwaith caled ac am ddiwrnod mor arbennig ac am adael i mi ymuno â phawb ohonoch.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Recycling team says thanks for Victorian Christmas Market success Y tîm ailgylchu yn diolch am lwyddiant Marchnad Nadolig Fictoraidd
Erthygl nesaf Teclyn codi newydd wedi’i osod yn safleoedd y Byd Dŵr a’r Waun Teclyn codi newydd wedi’i osod yn safleoedd y Byd Dŵr a’r Waun

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU
Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU
Pobl a lle
Hydref 21, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysg Pobl a lle
Hydref 21, 2026
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Meet the Supertrees event
Pobl a lleDatgarboneiddio WrecsamDigwyddiadau

Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)

Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle

Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn

Hydref 20, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English