Yn ystod y cyfnod clo mae nifer o ymwelwyr parciau lleol wedi bod yn addurno cerrig er mwyn eu hychwanegu at nadroedd cerrig ar ochr Llai ac ochr Gwersyllt o Barc Gwledig Dyfroedd Alun.
Cyn hir bydd y darnau gwych hyn o gelf amgylcheddol dirybudd yn llithro i ffwrdd i le ychydig yn fwy diogel yn y parc, er mwyn ein atgoffa o’r ysbryd creadigol a fu o gymorth i ni gyd drwy’r cyfnod clo.
Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws
Mae staff y parc, ymwelwyr, a chynghorwyr lleol i gyd wedi awgrymu y dylid achub y nadroedd rhag mwd a phyllau dŵr y gaeaf gan eu bod yn rhy dda i gael eu ‘dychwelyd i natur’ eto!
Os hoffech ychwanegu carreg wedi ei haddurno at y nadroedd, byddant yn aros yn eu lle am yr ychydig wythnosau nesaf.
Bydd cerrig neidr Gwersyllt/Bradley yn cael ei chasglu er mwyn ei hadleoli ger y ganolfan ymwelwyr ddydd Mercher 26 Awst, a bydd neidr Llai yn cael ei chasglu yr wythnos ganlynol ar ddydd Mercher 2 Medi er mwyn ei hadleoli yn y parc.
Os nad ydych eisiau i’ch cerrig chi fod yn rhan o’r ‘cylch covid’ yna mae croeso i chi eu casglu cyn y dyddiadau hyn.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â countryparks@wrexham.gov.uk
YMGEISIWCH RŴAN