Gallwn bellach gadarnhau y bydd Gwasanaeth Cofrestru Wrecsam yn ail-ddechrau cofrestru genedigaethau ar ddydd Iau 3 Awst 2020, ar gyfer babanod sy’n cael eu geni yn Ysbyty Maelor, Wrecsam.

Er mwyn cadw ein cwsmeriaid a’n staff yn ddiogel yn ystod argyfwng Coronafeirws (COVID-19), ac er mwyn defnyddio ein hadnoddau cyfyngedig yn y ffordd orau posibl, rydym wedi gwneud newidiadau i’n gwasanaethau cofrestru.

Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws

Rydym wedi trefnu’r canlynol yn sgil y nifer o enedigaethau sydd angen eu cofrestru:

Os ydych chi’n byw yn Sir y Fflint ac os ganed eich baban yn Wrecsam, cysylltwch â Gwasanaeth Cofrestru Sir y Fflint ar 01352 703333. Mesur dros dro yw hyn a bydd modd i chi gofrestru’r enedigaeth yn llawn yn y swyddfa honno a derbyn eich tystysgrifau hefyd.

Os ydych chi’n byw yn Wrecsam a phob ardal arall, ffoniwch 01978 298997 i drefnu apwyntiad yn Wrecsam, gan ddefnyddio’r canllawiau sydd wedi’u hamlinellu isod.  Byddwch yn ymwybodol y bydd angen i chi dalu am dystysgrifau tra byddwch chi’n trefnu’r apwyntiad.

  • Ar gyfer babanod gafodd eu geni ym mis Chwefror a Mawrth – cysylltwch â ni i drefnu apwyntiad yr wythnos sy’n dechrau 3 Awst 2020.

 

  • Ar gyfer babanod gafodd eu geni ym mis Ebrill a Mai – cysylltwch â ni i drefnu apwyntiad yr wythnos sy’n dechrau 10 Awst 2020.

 

  • Ar gyfer babanod gafodd eu geni o fis Mehefin ymlaen – cysylltwch â ni i drefnu apwyntiad yr wythnos sy’n dechrau 17 Awst 2020.

 

Fe fydd eich apwyntiad yn para tua 20 munud o hyd a does dim tâl.

Sylwch: mae’n rhaid i gofrestriadau geni gael eu cynnal trwy apwyntiad wyneb yn wyneb gyda chofrestrydd.  Er eich diogelwch, rydym wedi cyflwyno mesurau megis hylif diheintio dwylo a menig a byddwn mewn ystafell fwy er mwyn gallu cadw pellter cymdeithasol.

Gofynnwn am eich amynedd yn ystod y cyfnod yma, gan ein bod yn disgwyl llawer o alwadau yn sgil y galw am y gwasanaeth.  Gyda hyn mewn golwg, dilynwch y canllawiau sydd wedi’u hamlinellu uchod.

 

Ni fyddwn yn derbyn ceisiadau am apwyntiadau dros e-bost.  Os oes gennych unrhyw ymholiadau am gofrestru genedigaethau, ewch i’r ddolen ‘Cwestiynau Cyffredin’ ar ein gwefan https://www.wrexham.gov.uk/service/wrexham-register-office/frequently-asked-questions-birth-registration

Sut i gael prawf

YMGEISIWCH RŴAN