Mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru yn gofyn i bawb edrych ar ôl ei gilydd er mwyn helpu’r rheiny sydd mewn perygl o gamdriniaeth ac esgeulustod.
Mae’r neges hon yn berthnasol byth a beunydd ond rŵan, yn fwy nag erioed, mae angen diogelu pobl o bob oedran.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Yn sgil y coronafeirws mae cymdeithas yn wynebu sefyllfa nad ydym ni erioed wedi’i gweld o’r blaen ac mae hunan-ynysu yn un o’r prif negeseuon a chyngor sy’n cael ei ddarparu gan y Llywodraeth.
Er y bydd hyn yn helpu i atal lledaeniad y feirws, yn anffodus bydd hefyd yn golygu y bydd plant, pobl ifanc ac oedolion mewn perygl yng ngogledd Cymru mewn hyd yn oed mwy o berygl o gamdriniaeth ac esgeulustod. Byddwch yn wyliadwrus ac edrychwch ar ôl eich ffrindiau, eich teulu a’ch cymdogion ac os ydych chi’n gweld unrhyw arwydd o unrhyw fath o niwed rhowch wybod i’ch tîm diogelu lleol.”
Os oes gennych chi bryderon am blentyn:
Wrecsam 01978 292039 neu’r Gwasanaeth y tu allan i oriau: 0345 053 3116
Ynys Môn 01248 750057 neu’r Gwasanaeth y tu allan i oriau: 01248 353551
Conwy 01492 575111 neu’r Gwasanaeth y tu allan i oriau: 01492 515777
Sir Ddinbych 01824 712200 neu’r Gwasanaeth y tu allan i oriau: 0345 053 3116
Sir y Fflint 01352 701000 neu’r Gwasanaeth y tu allan i oriau: 0345 053 3116
Gwynedd 01766 772577 neu’r Gwasanaeth y tu allan i oriau: 01248 353551
Os oes gennych chi bryderon am oedolyn:
Wrecsam 01978 292066 neu’r Gwasanaeth y tu allan i oriau: 0345 053 3116
Ynys Môn 01248 750057 neu’r Gwasanaeth y tu allan i oriau: 01248 353551
Conwy 0300 456 1111 neu’r Gwasanaeth y tu allan i oriau 01492 515777
Sir Ddinbych 0300 4561000 neu’r Gwasanaeth y tu allan i oriau: 0345 053 3116
Sir y Fflint 03000 858858 neu’r Gwasanaeth y tu allan i oriau: 0345 053 3116
Gwynedd 01766 772577 neu’r Gwasanaeth y tu allan i oriau: 01248 353551
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19