“Mae arnom angen ein gilydd, a gallwn ddysgu cymaint oddi wrth ein gilydd hefyd. Gallwn fod yn wahanol gyda’n gilydd.”
Daw’r geiriau hyn o’r ffilm fer newydd Amrywiol Gyda’n Gilydd gan Gydlyniant Rhanbarthol Gogledd Ddwyrain Cymru a Rob Corcoran, y gwneuthurwr ffilmiau o Wrecsam. Mae Amrywiol Gyda’n Gilydd yn clodfori Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Ddinbych fel mannau croesawgar, ac yn cymryd golwg gadarnhaol ar fywyd mewn cymuned amrywiol.
Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.
Meddai’r Swyddog Cydlyniant Gareth Hall: “Yma yn y gogledd-ddwyrain, efallai nad yw amrywiaeth yn rhywbeth y byddwch chi’n ei weld bob tro’r ewch chi am dro i lawr y stryd, ond mae o yno drwy’r amser. Bob dydd mae ein tîm ni’n gweithio â phobl Bwylaidd, Tsieineaidd, Syriaidd, Affricanaidd, pobl yn y gymuned Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol, pobl o bob crefydd a chred.
“Pan rydych chi’n cael profiad o’r amrywiaeth honno, a dechrau dod i adnabod pobl go iawn, rydych chi’n gweld nad ydym ni mor wahanol wedi’r cyfan – ac rydym ar ein hennill o fod gyda’n gilydd. Dyna’r neges roeddwn i eisiau ei chyfleu yn y ffilm.
Diolch i Rob o gwmni ffilmiau 73 Degree am roi popeth at ei gilydd, a diolch i bawb yn Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Ddinbych a gymerodd ran wrth gyhoeddi’r neges honno gyda ni – ffilm gymunedol yw hon, a lleisiau’r gymuned sy’n rhoi ystyr i’r geiriau.”
Mae’r prosiect hwn hefyd yn cael ei ardystio gan aelodau arweiniol Cyngor Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Ddinbych:
“Mae Amrywiol Gyda’n Gilydd yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus i gefnogi a dathlu amrywiaeth ein cymunedau yn Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Ddinbych. Trwy ychwanegu eu lleisiau at y neges hon o groeso a chynhwysiant, dangosodd pawb a gymerodd ran yn y ffilm hon eu bod yn falch o rannu’r ymrwymiad hwnnw. Rydym yn falch o’i rannu gyda nhw. ”
Y Cyng Hugh Jones, Partneriaethau Aelod Arweiniol WCBC, Amddiffyn a Diogelwch Cymunedol
Y Cynghorydd Richard Mainon, Aelod Arweiniol CSDd Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfarwyddyd Strategol
Y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet FCC dros Reolaeth Gorfforaethol ac Asedau
Ymunwch â’r Fforwm Amrywiol Gyda’n Gilydd y tro nesaf
Ym mis Gorffennaf bydd Cydlyniant Rhanbarthol Gogledd-ddwyrain Cymru’n cynnal Fforwm Amrywiol Gyda’n Gilydd. Os ydych chi’n rhan o grŵp cymunedol, neu os ydych chi’n darparu cymorth yn y gymuned – neu os hoffech chi wneud mwy o gyfraniad at gynnal gweithgareddau yn eich ardal sy’n croesawu amrywiaeth – yna mae’r fforwm yn gyfle ichi rannu syniadau ac adnoddau.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r Cydlynydd Cydlyniant Cymunedol Rhanbarthol, Emily Reddy, ar emily.reddy@wrexham.gov.uk.
Rhannwch y fideo
Os ydych chi wedi blino ar weld pethau diflas ar gyfryngau cymdeithasol, beth am ichi ledaenu neges bositif? Rhannwch y ddolen at y ffilm Amrywiol Gyda’n Gilydd a rhoi gwybod i bawb fod eich cymuned yn lle croesawgar: https://youtu.be/nKDKZvgLVVQ