Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Neges o undod i’n cymunedau amrywiol yn Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Ddinbych
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
CYFLWYNO CORON A CHADAIR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL WRECSAM
CYFLWYNO CORON A CHADAIR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL WRECSAM
Digwyddiadau Pobl a lle
Adfywio treftadaeth barhaus yn cefnogi adeiladau allweddol yn Ardal Gadwraeth Wrecsam
Adfywio treftadaeth barhaus yn cefnogi adeiladau allweddol yn Ardal Gadwraeth Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Gwersyllt Community Resource Centre
Canolfan Adnoddau Cymunedol Gwersyllt – cau am bythefnos
Pobl a lle Y cyngor
Alwen Williams has been appointed as Chief Executive of the North Wales Corporate Joint Committee (CJC) – known as Ambition North Wales.
Uchelgais Gogledd Cymru yn penodi Prif Weithredwr
Arall Busnes ac addysg
Allech chi wneud unrhyw un o'r swyddi hyn?
Allech chi wneud unrhyw un o’r swyddi hyn?
Busnes ac addysg
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Fideo > Neges o undod i’n cymunedau amrywiol yn Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Ddinbych
FideoY cyngor

Neges o undod i’n cymunedau amrywiol yn Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Ddinbych

Diweddarwyd diwethaf: 2021/05/17 at 9:58 AM
Rhannu
Darllen 4 funud
RHANNU

“Mae arnom angen ein gilydd, a gallwn ddysgu cymaint oddi wrth ein gilydd hefyd. Gallwn fod yn wahanol gyda’n gilydd.”

Cynnwys
Ymunwch â’r Fforwm Amrywiol Gyda’n Gilydd y tro nesafRhannwch y fideo

Daw’r geiriau hyn o’r ffilm fer newydd Amrywiol Gyda’n Gilydd gan Gydlyniant Rhanbarthol Gogledd Ddwyrain Cymru a Rob Corcoran, y gwneuthurwr ffilmiau o Wrecsam. Mae Amrywiol Gyda’n Gilydd yn clodfori Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Ddinbych fel mannau croesawgar, ac yn cymryd golwg gadarnhaol ar fywyd mewn cymuned amrywiol.

Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.

Meddai’r Swyddog Cydlyniant Gareth Hall: “Yma yn y gogledd-ddwyrain, efallai nad yw amrywiaeth yn rhywbeth y byddwch chi’n ei weld bob tro’r ewch chi am dro i lawr y stryd, ond mae o yno drwy’r amser. Bob dydd mae ein tîm ni’n gweithio â phobl Bwylaidd, Tsieineaidd, Syriaidd, Affricanaidd, pobl yn y gymuned Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol, pobl o bob crefydd a chred.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

“Pan rydych chi’n cael profiad o’r amrywiaeth honno, a dechrau dod i adnabod pobl go iawn, rydych chi’n gweld nad ydym ni mor wahanol wedi’r cyfan – ac rydym ar ein hennill o fod gyda’n gilydd. Dyna’r neges roeddwn i eisiau ei chyfleu yn y ffilm.

Diolch i Rob o gwmni ffilmiau 73 Degree am roi popeth at ei gilydd, a diolch i bawb yn Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Ddinbych a gymerodd ran wrth gyhoeddi’r neges honno gyda ni – ffilm gymunedol yw hon, a lleisiau’r gymuned sy’n rhoi ystyr i’r geiriau.”

Mae’r prosiect hwn hefyd yn cael ei ardystio gan aelodau arweiniol Cyngor Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Ddinbych:

“Mae Amrywiol Gyda’n Gilydd yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus i gefnogi a dathlu amrywiaeth ein cymunedau yn Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Ddinbych. Trwy ychwanegu eu lleisiau at y neges hon o groeso a chynhwysiant, dangosodd pawb a gymerodd ran yn y ffilm hon eu bod yn falch o rannu’r ymrwymiad hwnnw. Rydym yn falch o’i rannu gyda nhw. ”

Y Cyng Hugh Jones, Partneriaethau Aelod Arweiniol WCBC, Amddiffyn a Diogelwch Cymunedol

Y Cynghorydd Richard Mainon, Aelod Arweiniol CSDd Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfarwyddyd Strategol

Y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet FCC dros Reolaeth Gorfforaethol ac Asedau

Ymunwch â’r Fforwm Amrywiol Gyda’n Gilydd y tro nesaf

Ym mis Gorffennaf bydd Cydlyniant Rhanbarthol Gogledd-ddwyrain Cymru’n cynnal Fforwm Amrywiol Gyda’n Gilydd. Os ydych chi’n rhan o grŵp cymunedol, neu os ydych chi’n darparu cymorth yn y gymuned – neu os hoffech chi wneud mwy o gyfraniad at gynnal gweithgareddau yn eich ardal sy’n croesawu amrywiaeth – yna mae’r fforwm yn gyfle ichi rannu syniadau ac adnoddau.

Diverse Together

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r Cydlynydd Cydlyniant Cymunedol Rhanbarthol, Emily Reddy, ar emily.reddy@wrexham.gov.uk.

Rhannwch y fideo

Os ydych chi wedi blino ar weld pethau diflas ar gyfryngau cymdeithasol, beth am ichi ledaenu neges bositif? Rhannwch y ddolen at y ffilm Amrywiol Gyda’n Gilydd a rhoi gwybod i bawb fod eich cymuned yn lle croesawgar: https://youtu.be/nKDKZvgLVVQ

 

Rhannu
Erthygl flaenorol Scams Mae negeseuon testun neu alwadau ffôn sy’n cynnig ad daliad treth y cyngor yn dwyll
Erthygl nesaf Caring for people. Gweithio tuag at fod yn gyngor cyfeillgar i ddementia

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

CYFLWYNO CORON A CHADAIR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL WRECSAM
CYFLWYNO CORON A CHADAIR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL WRECSAM
Digwyddiadau Pobl a lle Mehefin 18, 2025
Adfywio treftadaeth barhaus yn cefnogi adeiladau allweddol yn Ardal Gadwraeth Wrecsam
Adfywio treftadaeth barhaus yn cefnogi adeiladau allweddol yn Ardal Gadwraeth Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor Mehefin 17, 2025
Gwersyllt Community Resource Centre
Canolfan Adnoddau Cymunedol Gwersyllt – cau am bythefnos
Pobl a lle Y cyngor Mehefin 16, 2025
Alwen Williams has been appointed as Chief Executive of the North Wales Corporate Joint Committee (CJC) – known as Ambition North Wales.
Uchelgais Gogledd Cymru yn penodi Prif Weithredwr
Arall Busnes ac addysg Mehefin 16, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Adfywio treftadaeth barhaus yn cefnogi adeiladau allweddol yn Ardal Gadwraeth Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Adfywio treftadaeth barhaus yn cefnogi adeiladau allweddol yn Ardal Gadwraeth Wrecsam

Mehefin 17, 2025
Gwersyllt Community Resource Centre
Pobl a lleY cyngor

Canolfan Adnoddau Cymunedol Gwersyllt – cau am bythefnos

Mehefin 16, 2025
Social services
Y cyngor

Helpwch i lunio dyfodol gwasanaethau cymdeithasol i oedolion yn Wrecsam

Mehefin 11, 2025
Green garden waste bin
Y cyngor

Dyw hi (dal) ddim yn rhy hwyr i gofrestru ar gyfer casgliadau gwastraff gardd

Mehefin 10, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English