Caring for people.

Wythnos Gweithredu Dros Ddementia – Mai 17-21

Dan arweiniad Cymdeithas Alzheimer’s, bydd y cyhoedd yn dod at ei gilydd yn ystod Wythnos Gweithredu Dros Ddementia i wella bywydau pobl sy’n cael eu heffeithio gan ddementia.

Mae Cyngor Wrecsam wedi llwyddo i gynnal y statws ‘gweithio tuag at fod yn awdurdod sy’n gyfeillgar i ddementia’ am yr ail flwyddyn yn olynol.

Cadarnhaodd y Gymdeithas Alzheimer’s y newyddion ar ôl gweld y ffordd y mae ein hadran gofal cymdeithasol i oedolion wedi parhau i gefnogi pobl drwy gydol pandemig y coronafeirws.

Mae’r pandemig wedi cael effaith ddinistriol ar draws y byd ar bobl sy’n byw â dementia, ac mae adroddiad diweddar a gyhoeddwyd gan y gymdeithas wedi canfod:

  • Bod dros chwarter y bobl yn y DU a fu farw â Covid-19 rhwng mis Mawrth a mis Mehefin y llynedd â dementia.
  • Bod y cynnydd mwyaf o ran marwolaethau nad oeddent yn ymwneud â Covid-19 ym Mhrydain ymysg pobl â dementia.
  • I bobl a lwyddodd i oroesi’r argyfwng, roedd effeithiau hunan-ynysu yn ddifrifol.
  • Bod y pandemig wedi cael effaith sylweddol ar ofalwr teuluoedd a gofalwr proffesiynol.

Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.

Cefnogi teuluoedd yn Wrecsam

Mae’r cyfyngiadau ar gyswllt cymdeithasol – a roddwyd ar waith i arafu lledaeniad y feirws – wedi cael effaith niweidiol ar draws y boblogaeth, ond roedd yn arbennig o anodd i bobl â dementia.

Dywedodd y Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Mae cyswllt cymdeithasol yn bwysig iawn i bobl â dementia, felly mae’r pandemig wedi cael effaith enfawr arnynt.

“Mae gwaith ymchwil yn awgrymu fod y pandemig wedi cael effaith negyddol ar iechyd meddwl nifer o bobl, yn ogystal â hynny, mae nifer sylweddol o bobl wedi profi dirywiad amlwg yn eu gallu gwybyddol a’u lles corfforol.

“Yn Wrecsam, rydym wedi parhau i gynnig gymaint o gymorth â phosibl i unigolion a’u teuluoedd yn ystod y pandemig.

“Mae’n hollbwysig ein bod yn eu cefnogi, ac rydym yn falch iawn ein bod wedi cynnal ein statws fel cyngor sy’n gweithio tuag at fod yn gyfeillgar i ddementia.”

😷 Mae’r cyfyngiadau yng Nghymru’n llacio’n raddol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth gewch chi ei wneud a beth na chewch chi ei wneud.👈

Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF