Diolch i blant a phobl ifanc ledled Wrecsam, mae gardd newydd wedi’i hagor yn Ysbyty Maelor Wrecsam.
Gofynnwyd iddyn nhw i gyd fynegi eu barn ar yr amgylchedd yr oedd y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc wedi’i leoli ynddo ac yr oedd cyfran fawr ohonyn nhw’n cytuno y byddai man hygyrch yn yr awyr agored yn berffaith ar gyfer ymlacio, ymwybyddiaeth ofalgar, chwarae ac fel lle tawel ar gyfer apwyntiadau.
Gan ddefnyddio’r safbwyntiau hyn cynlluniodd aelodau Senedd yr Ifanc a Thîm Chwarae Wrecsam yr ardal a darparodd y Tîm Chwarae fin chwarae yn cynnwys adnoddau a fydd yn cael ei osod yn yr ardd. Gwnaeth myfyrwyr a staff Coleg Cambria dirlunio’r ardal, gan ei gwneud yn hygyrch, gwnaethon nhw adeiladu lloches a gosod ffensys newydd o amgylch yr ardd a’r ystafelloedd apwyntiadau, a chefnogodd tîm Ystadau’r Ysbyty y gwaith o reoli’r gwaith ar y tir.
“This Garden was inspired by Young People from the Senedd yr Ifanc”
Gwnaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gefnogi drwy wneud y lle yn fwy meddylgar, gan helpu i blannu bylbiau a blodau. Gwnaethon nhw hefyd greu rhai seddi o goed a oedd wedi syrthio yng Nghastell y Waun a cherfiodd un o’u gwirfoddolwyr y geiriau ‘This Garden was inspired by Young People from the Senedd yr Ifanc’, a chafodd y seddi eu gosod wedyn i bawb eu defnyddio o dan y lloches.
Dywedodd Scarlett Williams, un o aelodau Senedd yr Ifanc a fu’n ymwneud â’r prosiect, “Yn dilyn llawer o waith caled gan staff a phartneriaid, mae’n wych bod yr ardd hon, sydd wedi’i dylunio gan ac ar gyfer pobl ifanc yn Wrecsam, wedi’i chwblhau. Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi helpu gyda’r prosiect, a fydd, heb os, yn helpu llawer o bobl ifanc.”
Yn dilyn yr agoriad swyddogol, gwnaeth bawb fwynhau siocled poeth a hufen a malws melys a chymerwyd rhan mewn llawer o weithgareddau yn cynnwys peintio cerrig positifrwydd, adeiladu blychau glöynnod byw ac adar, gwehyddu natur a chyflwynodd Tîm Chwarae Wrecsam sesiwn chwarae ac adeiladu cuddfan.
Cafodd yr holl grefftau a wnaed eu gosod o amgylch yr ardd ynghyd ag addurniadau ar gyfer yr ardd a thai trychfilod i bawb eu gwerthfawrogi yn y dyfodol.
Dywedodd y Cynghorydd Rob Walsh, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Plant, “Dyma enghraifft wych o unigolion yn gwrando ar bobl ifanc a phartneriaid yn ymateb mewn ffordd sydd wedi arwain at amgylchedd gwell i’r plant a’r bobl ifanc sy’n defnyddio’r gwasanaeth pwysig hwn.
“Hoffwn ddiolch i bawb a fu’n rhan o gwblhau’r prosiect hwn a fydd yn helpu ac yn cefnogi llawer o bobl ifanc yma yn Wrecsam.”
Cafodd yr ardd ei hagor yn swyddogol gan Marilyn Wells, Pennaeth Nyrsio, Ardal y Dwyrain ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc, Niwro-ddatblygiadol a Dysgu.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch
Efallai yr hoffech chi hefyd ddarllen Arddangosfa bortreadau newydd yn dathlu gofalwyr ifanc