Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dros 30 o Fyfyrwyr Coleg Cambria yn dathlu dod yn Llysgenhadon Twristiaeth Wrecsam!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Dros 30 o Fyfyrwyr Coleg Cambria yn dathlu dod yn Llysgenhadon Twristiaeth Wrecsam!
Y cyngorBusnes ac addysg

Dros 30 o Fyfyrwyr Coleg Cambria yn dathlu dod yn Llysgenhadon Twristiaeth Wrecsam!

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 15, 2024 12:05 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Tourism Ambassadors
RHANNU

Ers cael ei lansio yn ystod hydref y llynedd, mae Cynllun Ar-lein Llysgenhadon Twristiaeth Wrecsam bellach wedi casglu dros 200 o unigolion o amgylch Wrecsam, a chyn belled â’r Unol Daleithiau, fel llysgenhadon swyddogol! 

Mae myfyrwyr sy’n astudio twristiaeth a lletygarwch yng Ngholeg Cambria hefyd wedi cwblhau’r modiwlau ar-lein fel rhan o’u rhaglenni dysgu, ac ers y Nadolig, mae dros 30 o fyfyrwyr a thiwtoriaid bellach yn llysgenhadon swyddogol.

Cynhelir cynllun Llysgenhadon Twristiaeth Wrecsam ar-lein ac mae wedi’i gynllunio’n bennaf i gefnogi’r rhai sy’n gweithio yn y diwydiant lletygarwch lleol i ddysgu mwy am y maes y maent yn gweithio ynddo, fel y gallant rannu’r wybodaeth â’r ymwelwyr maent yn ymgysylltu â nhw. Yn ei dro, mae’r cwrs rhad ac am ddim hefyd ar gael i unrhyw aelod o’r cyhoedd sydd â diddordeb yn Wrecsam ac mae wedi ennyn diddordeb ledled y byd! 

Cyflwynwyd tystysgrifau i’r myfyrwyr llwyddiannus gan Faer Wrecsam, y Cynghorydd Andy Williams ym Masn Trefor, wrth ymyl Dyfrbont Pontcysyllte.

Angharad Jarvis represents Coleg Cambria on the Wrexham Tourism Partnership and supported the launch of the ambassador scheme last year. She said; “It’s been a fantastic scheme to date and although I’ve lived and worked in Wrexham all my life, I’ve learnt a lot of information about the wider area that we’ve been able to pass onto our learners. In turn, many learners have embraced the modules and the knowledge they’ve gained has started to help shape their wider knowledge of Wrexham which will help them in their careers after college”.

Mae Angharad Jarvis yn cynrychioli Coleg Cambria ar Bartneriaeth Twristiaeth Wrecsam a bu iddi gefnogi lansiad y cynllun llysgenhadon y llynedd. Meddai; “Mae wedi bod yn gynllun gwych hyd yma ac er fy mod wedi byw a gweithio yn Wrescam drwy gydol fy mywyd, rwyf wedi dysgu llawer am yr ardal ehangach ac rydym wedi gallu rhannu’r wybodaeth hon gyda’n dysgwyr. Yn eu tro, mae nifer o fyfyrwyr wedi elwa o’r modiwlau ac mae’r hyn y maent wedi’i ddysgu wedi dechrau helpu i lywio’u gwybodaeth ehangach am Wrecsam, a fydd yn eu helpu yn eu gyrfaoedd yn dilyn eu cyfnod yn y coleg.”

Sut i ddod yn Llysgennad Twristiaeth

Er mwyn dod yn llysgennad, mae angen i gyfranogwyr gyflawni tri modiwl ‘efydd’ cychwynnol, ac mae modiwlau ‘arian’ ac ‘aur’ dewisol bellach ar gael. 

Gwahoddir Llysgenhadon Aur i gyflwyniad blynyddol gan y Maer i ddathlu eu cyflawniadau. Gallwch gofrestru ar gyfer y cwrs rhad ac am ddim yma.

Meddai’r Cynghorydd Andy Williams, Maer Wrecsam, “Roedd hi’n bleser llwyr cwrdd â’r myfyrwyr a dysgu am eu gwaith a’u hymrwymiad i ddod yn llysgennad twristiaeth. Mewn gwirionedd, os ydym ni am barhau i symud ymlaen fel cyrchfan dwristiaeth gystadleuol, angerdd a sgiliau’r dysgwyr hyn fydd dyfodol ein diwydiant twristiaeth – felly hoffwn eu llongyfarch am gyflawni hyn!”

Fe atgoffir busnesau hefyd bod modd iddynt hwythau ddod yn ‘Fusnesau sy’n Llysgenhadon Swyddogol ar gyfer Wrecsam’ drwy helpu mwy na 50% o’u gweithlu i gyflawni tystysgrif efydd.

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Mwy na 70 o fusnesau yn nigwyddiad brecwast diweddaraf Cynghrair Merswy a’r Ddyfrdwy

Rhannu
Erthygl flaenorol Garden at Maelor Hospital Gardd newydd i Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc
Erthygl nesaf Freedom Leisure Y Farwnes Tanni Grey-Thompson DBE yn Bresennol yng Nghynhadledd Genedlaethol Freedom Leisure gan Gyflwyno Gwobrau i Ganolfannau Hamdden Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Minera Roof Trusses
Busnes ac addysg

Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam

Awst 25, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English